Martin Frobisher
Martin Frobisher | |
---|---|
Ganwyd | 1535 Altofts |
Bu farw | 15 Tachwedd 1594 Plymouth |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Galwedigaeth | fforiwr |
llofnod | |
Fforiwr a morwr o Sais oedd Syr Martin Frobisher (tua 1535 – 22 Tachwedd 1594) a oedd yn un o'r Ewropeaid cyntaf i archwilio arfordir gogledd-ddwyrain Canada yn ystod Oes Aur Fforio. Mae'n enwog am ei dair mordaith aflwyddiannus i geisio canfod Tramwyfa'r Gogledd Orllewin.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd ym mhentref Altofts ger Wakefield, Swydd Efrog. Bu farw ei fam yn 1549, ac aeth i fyw â'i ewythr Syr John York, un o swyddogion y bathdy. Fe'i anfonwyd gan ei ewythr i deithio ar hyd arfordir Gorllewin Affrica i Gwlff Gini gyda'r Is-Lyngesydd Thomas Wyndham yn 1553. Frobisher oedd un o'r ychydig o forwyr i oroesi'r fordaith honno. Aeth yn ôl i Gwlff Gini yn 1554, a dywed iddo wirfoddoli eu hunain yn wystl mewn trafodaethau masnachol ag un o'r brenhinoedd Affricanaidd. Ffoi wnaeth y Saeson pan gyrhaeddodd llongau Portiwgalaidd, a chipiwyd Frobisher gan y Portiwgaliaid. Fe'i rhyddhawyd yn 1556 neu 1557.[1]
Preifatirio
[golygu | golygu cod]Yn y 1560au gweithiodd fel preifatîr i'r Goron, gan ysbeilio llongau Ffrainc ym Môr Udd.[2] Cafodd ei arestio o leiaf tair gwaith am fôr-ladrad, er na chafodd ei roi ar brawf.[1]
Y fordaith gyntaf (1576)
[golygu | golygu cod]Ymgeisiodd Frobisher ennill nawdd am fordaith i chwilio am fôr-lwybr o ogledd yr Iwerydd i'r Dwyrain Pell, yr hwn a elwir Tramwyfa'r Gogledd Orllewin, drwy fforio rhanbarthau gogleddol y Byd Newydd. Derbyniodd gefnogaeth gan y marsiandwr Michael Lok, ac yn 1576 cafodd ganiatâd y Frenhines Elisabeth i arwain mordaith o dair llong i chwilio am Dramwyfa'r Gogledd Orllewin. Llwyddodd un long yn unig i groesi'r Iwerydd a chyrraedd arfordir Labrador ac Ynys Baffin. Er iddo ddarganfod y gainc o Fôr Labrador sy'n dwyn ei enw, Bae Frobisher, methiant fu'r ymdrech i ganfod môr-lwybrau masnach. Cyfarfu'r Saeson â thrigolion Inuit Ynys Baffin, ac mae'n bosib i'r brodorion gipio pump aelod o griw Frobisher pan rwyfasant i'r lan. Ni chafwyd hyd iddynt, ac felly cipiodd Frobisher un o'r Inuit a ddaeth yn agos at ei long mewn caiac. Bu farw'r Inuit hwnnw yn fuan ar ôl iddo gyrraedd Lloegr gyda Frobisher. Daethpwyd hefyd yn ôl â chreigiau du, gan honni eu bod yn fwyn gwerthfawr. Credai bod aur ac arian ar gael yn rhanbarthau Arctig y Byd Newydd, ac anogwyd eraill i fforio'r ardal wedi i Frobisher ddychwelyd o'i fordaith gyntaf.[1]
Yr ail fordaith (1577)
[golygu | golygu cod]Derbyniodd Frobisher ragor o gefnogaeth am fenter i gloddio am fetelau gwerthfawr, ac aeth ar ei ail fordaith yn 1577 gyda 150 o ddynion i sefydlu gwladfa Seisnig. Cyrhaeddodd Fae Frobisher unwaith eto, a chasglwyd rhyw 200 tunnell o fwyn a goelid ei fod yn aur. Dychwelodd Frobisher i Loegr gyda tri charcharor o Inuit, a fuont farw ymhen fawr o dro, a dangoswyd taw pyrit haearn neu "aur ffyliaid" oedd y mwyn euraid a chafodd ei ddwyn yn ôl ganddynt. Methiant a fu'r fordaith hon, gan iddi ffaelu sefydlu gwladfa, canfod mwynau gwerthfawr, na darganfod Tramwyfa'r Gogledd Orllewin.[1]
Y drydedd fordaith (1578)
[golygu | golygu cod]Comisiynodd y Frenhines Elisabeth fordaith arall i chwilota am aur, ac ym Mai 1578 hwyliodd 15 o longau dan arweiniad Frobisher gyda'r nod o sefydlu gwladfa ar Ynys Baffin. Stori debyg ydoedd i'w ail fordaith. Wrth groesi'r Iwerydd, suddodd un o'r llongau a throdd un arall yn ôl i Loegr. Methodd yr ymgais i wladychu'r ynys, a dychwelodd y 13 o longau yn ôl i Loegr yn Awst. Daeth Frobisher â rhyw 1,350 tunnell o fwynau yn ôl o'i fordaith, ac nid oedd yr un metel gwerthfawr i'w gael yn eu plith.[1]
Rhyfela'n erbyn y Sbaenwyr
[golygu | golygu cod]Gwnaed drwg i enw Frobisher fel fforiwr gan ei fethiannau yng Ngogledd America, a throdd yn ôl at filwrio dros y Goron. Aeth i Iwerddon yn 1578 i ostegu gwrthryfel, ac ymunodd yn is-lyngesydd â thaith Syr Francis Drake i India'r Gorllewin yn 1585. Cafodd ei urddo'n farchog am ei ran yn y frwydr yn erbyn Armada Sbaen yn 1588. Arweiniodd sawl cyrch llyngesol yn erbyn Sbaen hyd at ei ymladdfa olaf yn erbyn y Sbaenwyr oddi ar arfordir gorllewin Ffrainc. Bu farw yn Plymouth o'i anafiadau yn y frwydr honno.[1][2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 (Saesneg) "Sir Martin Frobisher", The Canadian Encyclopedia. Adalwyd ar 15 Chwefror 2019.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Sir Martin Frobisher. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 11 Chwefror 2019.