Pab Alecsander VI

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Pab Alecsander VI
Pope Alexander Vi.jpg
Ganwyd 1 Ionawr 1431 Edit this on Wikidata
Xàtiva Edit this on Wikidata
Bu farw 18 Awst 1503 Edit this on Wikidata (72 oed)
Rhufain Edit this on Wikidata
Alma mater Prifysgol Bologna Edit this on Wikidata
Gwaith Offeiriad catholig edit this on wikidata
Plant Pier Luigi de Borgia, Cesare Borgia, Giovanni Borgia, 2nd Duke of Gandia, Lucrezia Borgia, Gioffre Borgia, Girolama Borgia, Isabella Borgia, Giovanni Borgia, Laura Orsini, Rodrigo Borgia Edit this on Wikidata

Pab oedd Alecsander VI (ganed Roderic Llançol i de Borja, 1 Ionawr 1431) a deyrnasodd o 11 Awst 1492 hyd at ei farwolaeth ar 18 Awst 1503. Fe'i ystyrir yn un o babau mwyaf dadleuol y Dadeni oherwydd ei hoffder o nepotiaeth a'i anniweirdeb rhywiol. Ef oedd yr ail bab o'r teulu Borgia ar ôl ei ewythr Calistus III; daeth enw'r teulu'n ddrwg-enwog am lygredigaeth a thrais yn ystod teyrnasiad Alecsander. Ymhlith ei blant anghyfreithlon roedd Cesare Borgia, ag ysbrydolodd llyfr Niccolò Machiavelli Il Principe ("Y Tywysog"), a Lucrezia Borgia.

Bywyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Roderic Llançol i de Borja yn Xàtiva, ger Valencia yng Nghatalwnia; mae'r cyfenw'n addasiad o ffurf Eidaleg yr enw Borgia. Roedd ei ewythr ar ochr ei fam, Alonso de Borja, yn esgob Valencia a gafodd ei ddyrchafu yn hwyrach i statws cardinal, ac fe roddodd ef lwyth o fywoliaethau eglwysig i'w nai.[1] Ym 1456, ar ôl ei astudiaethau ym mhrifysgol Bologna, crëwyd Rodrigo Borgia yn gardinal gan ei ewythr, a oedd bellach wedi'i ethol yn Bab ac yn dwyn yr enw Calistus III. Ym 1457 penodwyd y Cardinal Borgia yn Is-ganghellor y Sedd Sanctaidd, swydd a oedd yn ei wneud yn un o'r cardinaliaid cyfoethocaf.[2] Parhaodd i ddal y swydd hyn drwy deyrnasiadau'r pedwar pab nesaf.[1] Cenhedlodd y cardinal bedwar o blant gyda'i feistres Vannozza dei Cattanei, a oedd o deulu bonedd Rufeinig; eu henwau oedd Giovanni (Juan), Cesare, Lucrezia a Goffredo (Jofré).[3]

Yn dilyn marwolaeth Innocentius VIII ym 1492, llwyddodd Borgia twy lwgrwobwyaeth i gael ei hun wedi'i ethol yn bab, a cymerodd yr enw Alecsander VI.[1] Defnyddiodd ei safle i sicrhau statws a chyfoeth ei deulu. Penododd ei fab hynaf, Juan, yn Ddug Gandía (yn Sbaen) ac ym 1492 rhoddodd sawl esgobaeth i'w ail fab Cesare. Yn y flwyddyn olynol daeth Cesare ac Alessandro Farnese, mab meistres diweddaraf y pab, Giulia Farnese, yn gardinaliaid. Trefnodd Alecsander briodasau gwleidyddol ar gyfer Lucrezia, a oedd weithiau'n llywodraethu fel rhaglyw pan oedd ei thad i ffwrdd o Rufain. Ym 1497 lladdwyd Juan, ac roedd amheuon mai Cesare oedd wedi trefnu'r llofruddiaeth. Yn y flwyddyn olynol gwadodd Cesare ei deitlau eglwysig a dechreuodd yrfa newydd fel milwr llwyddiannus ym myddin y Pab.

Ym 1493, y flwyddyn ar ôl mordaith Christopher Columbus, chwaraeodd Alecsander ran pwysig yn hanes yr Amerig drwy ddeddfwrio ar ba ardaloedd oedd i'w neilltuo i Sbaen a pha rai i Bortiwgal. Ei brif nod gwleidyddol yn ystod ei deyrnasiaeth oedd sicrhau perchnogaeth y teulu Borgia dros y Wladwriaeth Babyddol a chanolbarth yr Eidal.[2] I dalu am yr ymgyrch hyn llofruddiai Cesare ei elynion gwlediyddol yn yr hen deuluoedd bonedd Rhufeinig a chipio'u tiroedd, a caniatäwyd i gardinaliaethau gael eu prynu gan deuluoedd cyfoethog. Ymhlith prif elynion Alecsander oedd Girolamo Savonarola, mynach a fu'n pregethu i'r Eglwys gael ei diwygio ac a gipiodd awennau Fflorens ym 1494; llosgwyd ef ar y stanc ym 1498. Ym mis Awst 1503 aeth Alecsander a Cesare yn sâl yn sydyn; roeddent naill ai wedi'u gwenwynnu neu wedi dal malaria. Bu farw y pab ar 18 Awst ac fe'i gladdwyd yn sydyn ac anurddasol.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Campbell, Gordon. The Oxford Dictionary of the Renaissance. Rhydychen ac Efrog Newydd: Gwasg Prifysgol Rhydychen. pp. 130–1. 
  2. 2.0 2.1 Kelly, J. N. D. The Oxford Dictionary of Popes. Rhydychen ac Efrog Newydd: Gwasg Prifysgol Rhydychen. pp. 252–4. 
  3.  Murphy, Francis Xavier. Alexander VI. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 6 Ebrill 2014.