Pab Calistus III

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Calistus III)
Jump to navigation Jump to search
Pab Calistus III
Calixtus III.jpg
Ganwyd Alonso de Borja i Llançol Edit this on Wikidata
8 Ionawr 1379 Edit this on Wikidata
Canals Edit this on Wikidata
Bu farw 15 Awst 1458 Edit this on Wikidata (79 oed)
Achos: Strôc Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Coron Aragón Edit this on Wikidata
Galwedigaeth offeiriad Catholig Edit this on Wikidata
Swydd Pab, Archesgob, Esgob Valencia Edit this on Wikidata
Tad Domingo de Borja Edit this on Wikidata
Llinach House of Borgia Edit this on Wikidata

Pab oedd Calistus III (Alfonso de Borja, ganed 31 Rhagfyr 1378) a deyrnasodd o 8 Ebrill 1453 hyd ei farwolaeth ar 6 Awst 1458. Tra'n Bab canolbwyntiodd yn bennaf ar drefnu Croesgad aflwyddiannus yn erbyn y Twrciaid, a oedd wedi meddiannu Caergystennin ym 1453. Bu'r ymdrech yn fethiant oherwydd anhrefn yn sefyllfa wleidyddol Ewrop. Ym 1456 ail-ystyrrodd y Pab achos Jeanne d'Arc, a'i lladdwyd ym 1431 dan gyhuddiaeth o ddewiniaeth a heresi; penderfynwyd ei bod hi'n ddi-euog. Dyrchafodd ddau nai i statws cardinal, a daeth un o'r rhain yn Bab yn ddiweddarach, yn dwyn yr enw Alecsander VI.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Kelly, J. N. D. The Oxford Dictionary of Popes. Rhydychen ac Efrog Newydd: Gwasg Prifysgol Rhydychen. pp. 245–7.