Lucrezia Borgia
Lucrezia Borgia | |
---|---|
![]() Lucrezia Borgia (mae'n debyg), gan Bartolomeo Veneziano (c. 1510).[1] | |
Ganwyd |
18 Ebrill 1480 Subiaco, yr Eidal |
Bu farw |
24 Mehefin 1519 (39 oed) Ferrara |
Teitl |
Arglwyddes Pesaro a Gradara Duges Bisceglie a Thywysoges Salerno |
Priod |
Giovanni Sforza (m. 1493; ann. 1497) Alfonso o Aragon (1481–1500) (pr. 1498–1500) Alfonso d'Este (pr. 1502–tan ei marw yn 1519) |
Merch Pab Alecsander VI a Vannozza dei Cattanei oedd Lucrezia Borgia (Ynganiad Eidaleg: [luˈkrɛttsja ˈbɔrdʒa]; 18 Ebrill 1480 – 24 Mehefin 1519). Ymhlith ei brodyr roedd Cesare Borgia, Giovanni Borgia, a Gioffre Borgia.[2]
Trefnodd ei thad nifer o briodasau ar ei chyfer, gan ei thrin fel gwerin gwyddbwyll er mwyn gwella sefyllfa wleidyddol a chyfoeth y teulu Borgia. Priododd Giovanni Sforza (m. 1493; ann. 1497), Alfonso o Aragon, Dug Bisceglie (1481–1500; pr. 1498–1500) ac Alfonso d'Este (pr. 1502–tan ei marwolaeth hi). Dywedir fod Alfonso'n fab anghyfreithiol i Frenin Napoli ac i'w brawd Cesare ei ladd.[3][4]
Gwnaed sawl ffilm a nofel ar y teulu Maciofelaidd hwn, gan gynnwys y ddogfen Il Principe gan Niccolò Machiavelli, ble gwelwyd Lucrezia fel femme fatale, rôl y chwaraewyd hi ynddo mewn llawer o weithiau celf, nofelau a ffilmiau, dros y blynyddoedd. Yn 1833 ysgrifennodd Victor Hugo ddrama lwyfan amdani ac yng Ngorffennaf 2011 rhyddhaodd Netflix gyfres deledu o'r enw Borgia; roedd y gyfres yn serenu Isolda Dychauk fel Lucrezia a John Doman fel ei thad.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Bellonci, Maria (2003). Lucrezia Borgia. Milan: Mondadori. p. 613. ISBN 978-88-04-45101-3.
- ↑ Bellonci, Maria (2000). Lucrezia Borgia. London: Phoenix Press. p. 23. ISBN 1-84212-616-4.
- ↑ Bellonci, Maria (2003). Lucrezia Borgia. Milan: Mondadori. pp. 121–122. ISBN 978-88-04-45101-3.
- ↑ Bellonci, Maria (2003). Lucrezia Borgia. Milan: Mondadori. pp. 139–141. ISBN 978-88-04-45101-3.
|