Bae Baffin
Gwedd
| Math | môr |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | William Baffin |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Cefnfor yr Arctig, Labrador Sea |
| Sir | Yr Ynys Las, Nunavut |
| Gwlad | Canada, Yr Ynys Las, Denmarc |
| Arwynebedd | 689,000 km² |
| Cyfesurynnau | 74°N 68°W |
| Hyd | 1,130 cilometr |
![]() | |
Môr rhwng Cefnfor yr Iwerydd a Chefnfor yr Arctig yw Bae Baffin (Saesneg: Baffin Bay, Ffrangeg: Baie de Baffin). Mae'n 1130 km o'r gogledd i'r de. Am y rhan fwyaf o'r flwyddyn, nid oes modd i longau arferol deithio arno oherwydd y rhew.
Saif Ynys Baffin i'r gorllewin o Fae Baffin, Yr Ynys Las i'r dwyrain ac Ynys Ellesmere i'r gogledd. Cysylltir y bae a'r Iwerydd gan Gulfor Davis . Enwyd y bae ar ôl William Baffin, a fu yma yn 1616.
