Ynys Ellesmere

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ynys Ellesmere

Ynys yng ngogledd Canada yw Ynys Ellesmere. Gydag arwynebedd o 196.235 km², hi yw ynys trydydd-fwyaf Canada a'r degfed o ran maint ymhlith ynysoedd y byd. Hi yw'r fwyaf o Ynysoedd Queen Elizabeth. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 168.

Yn weinyddol, mae'r ynys yn rhan o diriogaeth Nunavut. Mae Parc Cenedlaethol Quttinirpaaq yn gwarchod rhan helaeth ohoni. Gorchuddir tua 80,000 km² ohoni gan rew.