Neidio i'r cynnwys

Humphrey Gilbert

Oddi ar Wicipedia
Humphrey Gilbert
Ganwyd1539 Edit this on Wikidata
Dyfnaint Edit this on Wikidata
Bu farw9 Medi 1583 Edit this on Wikidata
o boddi Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethfforiwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Senedd 1571, Aelod o Senedd 1572-83 Edit this on Wikidata
TadOtho Gilbert Edit this on Wikidata
MamKatherine Champernowne Edit this on Wikidata
llofnod

Fforiwr, milwr a morwr o Sais oedd Syr Humphrey Gilbert (tua 15399 Medi 1583) sy'n enwog am ei ran yn y chwilfa am Dramwyfa'r Gogledd Orllewin. Er iddo lwyddo i gipio Newfoundland am Deyrnas Lloegr, methiant llwyr oedd ei ymdrechion i sefydlu'r wladfa Seisnig barhaol gyntaf yng Ngogledd America.

Teulu, addysg a milwra

[golygu | golygu cod]

Ganwyd yn Greenway, Dyfnaint, i deulu cefnog.[1] Roedd yn hanner brawd, o'r un fam, i Syr Walter Raleigh ac yn gefnder i Syr Richard Grenville. Astudiodd fordwyo a gwyddor filwrol ym Mhrifysgol Rhydychen cyn iddo ymuno â gosgordd y Dywysoges Elisabeth, yr hon a ddaeth yn Frenhines Lloegr yn 1558. Aeth yn filwr gyda byddin yr Iarll Warwick i gynorthwyo'r Hiwgenotiaid yn Rhyfeloedd Crefydd Ffrainc. Tra'r oedd Gilbert mewn garsiwn yn Le Havre (1562–1563), fe'i anafwyd yn ystod y gwarchae.

Gwladychu Iwerddon

[golygu | golygu cod]

Ysgrifennodd draethawd yn 1566 i ddadlau dros fordeithiau i chwilio am Dramwyfa'r Gogledd Orllewin. Gwrthodwyd y cynnig gan y Frenhines Elisabeth, ac anfonodd hi Gilbert i Iwerddon i ostegu gwrthryfel yn y cyfnod 1567–70. Cynlluniodd Gilbert i wladychu talaith Munster a'i throi'n Brotestannaidd. Cafodd ei urddo'n farchog yn 1570.

Rhyfel yn erbyn Sbaen

[golygu | golygu cod]

Yn 1572, arweiniodd Gilbert 1,500 o filwyr Seisnig yng Ngwrthryfel yr Iseldiroedd yn erbyn Sbaen.

Fforio Gogledd America

[golygu | golygu cod]

Yn 1577, cyflwynodd gynllun i'r Frenhines i gipio llongau pysgota Sbaen, Portiwgal, a Ffrainc yn nyfroedd Newfoundland yn ogystal â meddiannu'r trefedigaethau Sbaenaidd Santo Domingo a Chiwba yn y Caribî a rhagodi llongau trysor ar eu ffordd yn ôl i Sbaen. Gwrthodwyd ei gynnig unwaith eto, er i'r Frenhines roddi siarter iddo yn 1578 i wladychu tiroedd yn y Byd Newydd nad oedd wedi eu hawlio'n barod gan wledydd Ewropeaidd eraill. Aeth Gilbert ar fordaith i Ogledd America, ond methiant a fu oherwydd ei arweinyddiaeth wael, ac erbyn tymor y gwanwyn 1579 roedd yr holl longau wedi dychwelyd i Loegr neu droi at fôr-ladrad.

Diwedd ei oes

[golygu | golygu cod]

Yn 1579, llwyddodd Gilbert i atal gwrthryfel arall yn Iwerddon. Aeth ar fordaith arall i Ogledd America yn 1583, gan gipio Newfoundland yn enw'r Frenhines. Ar ei ffordd yn ôl i Loegr, chwalwyd ei long mewn storm yng Nghefnfor yr Iwerydd, ger yr Azores.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) "Sir Humphrey Gilbert", Encyclopedia of World Biography (Gale, 2004). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 12 Chwefror 2019.
  2. (Saesneg) Sir Humphrey Gilbert. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 12 Chwefror 2019.

Darllen pellach

[golygu | golygu cod]
  • Nathan J. Probasco, Sir Humphrey Gilbert and the Elizabethan Expedition: Preparing for a Voyage (Cham: Palgrave Macmillan, 2020).