Neidio i'r cynnwys

Gwyddor filwrol

Oddi ar Wicipedia

Astudiaeth achosion rhyfel ac egwyddorion tacteg filwrol yw gwyddor filwrol.[1] Gellir hefyd defnyddio'r ffurf luosog gwyddorau milwrol sy'n cwmpasu hanes milwrol, technoleg filwrol, seicoleg filwrol, arweinyddiaeth, cyfraith filwrol, polisi amddiffyn, strategaeth filwrol, ac agweddau economaidd a moesegol y lluoedd arfog a rhyfela. Amcanion gwyddor milwrol yw i ennill rhyfeloedd, i sicrhau diogelwch cenedlaethol, ac i gyflawni amcanion eraill polisi amddiffyn (er enghraifft cadw'r heddwch).[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) military science. Oxforddictionaries.com. Adalwyd ar 12 Awst 2014.
  2. Lodewyckx, Peter. "Defence Sciences: Do They Exist?" ВОЈНО ДЕЛО (2011).
Eginyn erthygl sydd uchod am luoedd milwrol neu wyddor filwrol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.