Emanuel Swedenborg

Oddi ar Wicipedia
Emanuel Swedenborg
Ganwyd29 Ionawr 1688 Edit this on Wikidata
Stockholm, Jakob and Johannes parish Edit this on Wikidata
Bu farw29 Mawrth 1772 Edit this on Wikidata
o strôc Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSweden Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Uppsala Edit this on Wikidata
Galwedigaethffisegydd, athronydd, diwinydd, mathemategydd, cyfrinydd, ysgrifennwr, gwyddonydd, dyfeisiwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Uppsala Edit this on Wikidata
TadJesper Swedberg Edit this on Wikidata
LlinachSwedenborg Edit this on Wikidata
llofnod

Athronydd a gwyddonydd Swedaidd a diwinydd a chyfrinydd Cristnogol oedd Emanuel Swedenborg (8 Chwefror [29 Ionawr yn yr Hen Ddull] 168829 Mawrth 1772) a ystyrir yn un o'r prif feddylwyr yn nhraddodiad cyfriniol y Gorllewin. Ysgrifennodd nifer o destunau yn yr iaith Ladin, gan gynnwys dehongliadau o'r Ysgrythurau fel gair digyfrwng Duw. Pontiodd ei fywyd a'i waith oesoedd yr Oleuedigaeth a Rhamantiaeth, a châi ei syniadaeth ddylanwad pwysig ar sawl mudiad deallusol a chrefyddol wedi ei farwolaeth. Gelwir ei dysgeidiaeth, sy'n ddiarhebol dywyll a dwfn, yn Swedenborgiaeth, a sefydlwyd Eglwys y Jeriwsalem Newydd ar ei sail.

Ganed ef yn Stockholm, yng nghyfnod Ymerodraeth Sweden, i deulu amlwg a chefnog. Ymddisgleiriodd yn ei astudiaethau ers ei flynyddoedd cynnar, a chafodd yrfa lwyddiannus fel gwyddonydd a pheiriannydd. Yn ogystal â'i ymchwil ym maes ffiseg a'i waith mathemategol, dyfeisiodd fodd i adeiladu dociau sych a dyluniodd long danfor gynnar.

Wedi iddo droi'n 30 oed, symudodd ei sylw tuag at athroniaeth a metaffiseg, ac aeth ar daith ysbrydol. Honnodd ei fod wedi cael sawl profiad goruwchnaturiol gan gynnwys gweld angylion ac ysbrydion. Credodd i Dduw ei benodi i ddatguddio gwirionedd y byd ysbrydol a bywyd ar ôl marwolaeth. Ei gampwaith ydy Arcana Caelestia, a gyhoeddwyd mewn wyth cyfrol o 1749 i 1756.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Miscellanea de rebus naturalibus, 1911
  • 1716-1718, (Daedalus Hyperboreus) Swedeg: Daedalus Hyperboreus, eller några nya mathematiska och physicaliska försök
  • 1721, Prodromus principiorum rerum naturalium : sive novorum tentaminum chymiam et physicam experimenta geometrice explicandi
  • 1722, Miscellanea de Rebus Naturalibus
  • 1734, Opera Philosophica et Mineralia
    • (Principia, cyf. I) Tomus I. Principia rerum naturlium sive novorum tentaminum phaenomena mundi elementaris philosophice explicandi
    • (Principia, cyf. II) Tomus II. Regnum subterraneum sive minerale de ferro
    • (Principia, cyf. III) Tomus III. Regnum subterraneum sive minerale de cupro et orichalco
  • 1734, Prodromus Philosophiz Ratiocinantis de Infinito, et Causa Finali Creationis; deque Mechanismo Operationis Animae et Corporis.
  • 1744-1745, Regnum animale, 3 volumes
  • 1745, De Cultu et Amore Dei, 2 volumes
  • 1749-1756, Arcana Cœlestia, quae in Scriptura Sacra seu Verbo Domini sunt, detecta., 8 cyf.
  • 1758, De Caelo et Ejus Mirabilibus et de inferno. Ex Auditis et Visis.
  • 1758, De Ultimo Judicio
  • 1758, De Equo Albo de quo in Apocalypsi Cap.XIX.
  • 1758, De Telluribus in Mundo Nostro Solari, quæ vocantur planetæ: et de telluribus in coelo astrifero: deque illarum incolis; tum de spiritibus & angelis ibi; ex auditis & visis.
  • 1758, De Nova Hierosolyma et Ejus Doctrina Coelesti
  • 1763, Doctrina Novæ Hierosolymæ de Domino.
  • 1763, Doctrina Novæ Hierosolymæ de Scrip­tura Sacra.
  • 1763, Doctrina Vitæ pro Nova Hierosolyma ex præceptis Deca­logi.
  • 1763, Doctrina Novæ Hierosolymæ de Fide.
  • 1763, Continuatio De Ultimo Judicio: et de mundo spirituali.
  • 1763, Sapientia Angelica de Divino Amore et de Divina Sapientia. Sapientia Angelica de Divina Providentia
  • 1764, Sapientia Angelica de Divina Providentia
  • 1766, Apocalypsis Revelata, in quae detegunter Arcana quae ibi preedicta sunt.
  • 1768, Deliciae Sapientiae de Amore Conjugiali; post quas sequumtur voluptates insaniae de amore scortatorio.
  • 1769, Summaria Expositio Doctrinæ Novæ Ec­cle­siæ, quæ per Novam Hierosolymam in Apocalypsi intelligitur.
  • 1769, De Commercio Animæ & Corporis.
  • 1771, Vera Christiana Religio, continens Universam Theologiam Novae Ecclesiae
  • 1859, Drömboken, Journalanteckningar, 1743-1744
  • 1983-1997, Diarum, Ubi Memorantur Experiantiae Spirituales.


Baner SwedenEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Swedwr neu Swedwraig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.