Gwyddoniaeth

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Gwyddonydd)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Mae 'Gwyddonydd' yn ailgyfeirio i'r dudalen hon. Am y cylchgrawn Cymraeg gweler Y Gwyddonydd.
Galileo: tad gwyddoniaeth fodern yn ôl llawer.
Gwyddonydd wrth ei gwaith

System o wybodaeth a dealltwriaeth o'r byd ffisegol, sy'n defnyddio dulliau a ellir eu gwirio yw gwyddoniaeth. Yn benodol, mae'n cyfeirio at system o ganfod gwybodaeth sy'n seiliedig ar empiriaeth, arbrofi, a methodolegol rheysmegol ac at y corff o wybodaeth mae pobl wedi'u casglu trwy ymchwil o'r fath. Athroniaeth gwyddoniaeth yw astudiaeth haniaethol o natur a chyfiawnhâd gwybodaeth wyddonol.

Mynna gwyddonwyr bod yn rhaid i ymchwil wyddonol ufuddhau i'r dull gwyddonol, gan egluro digwyddiadau yn nhermau achosion naturiol, a gwrthod syniadau goruwchnaturiol na ellir ei brofi. Hynny yw, nid lle gwyddoniaeth ydy gofyn 'Oes na Dduw?'

Dosberthir meysydd gwyddoniaeth yn ddau brif grŵp: gwyddorau naturiol, a gwyddorau cymdeithasol. Mae Mathemateg yn arf hanfodol i'r gwyddonydd, ac mae Mathemateg yn debyg (ac yn rhan o) Wyddoniaeth gan ei bod yn astudiaeth drwyadl a rhesymegol o bynciau megis rhif, maint, strwythur, gofod, a newid. Fodd bynnag, ni ellir ystyried Mathemateg yn Wyddoniaeth bur, gan fod y dull mathemategol yn gwbl wahanol i'r dull gwyddonol.

Dros y canrifoedd cafwyd llawer o Gymry a fu'n flaenllaw iawn y myd Gwyddoniaeth gan gynnwys dau enillydd y wobr Nobel: Brian David Josephson (g. 1940) a Bertrand Russell, y biolegydd Alfred Russel Wallace a'r economegydd Clive W. J. Granger (g. 1934). Robert Recorde (1510–1558) o Ddinbych-y-pysgod a greodd symbol yr hafaliad (=) ac William Jones (1675–1749) oedd y cyntaf i ddefnyddio'r symbol π (ynganiad: [/]pynganiad: [/]) i gynrychioli cymhareb y cylchedd i'r diamedr yn 1796.

Gwyddoniaeth naturiol[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg Prif erthygl: Gwyddoniaeth naturiol

Ystyr draddodiadol Gwyddoniaeth Naturiol yw astudiaeth o agweddau di-ddynol y byd. Fel casgliad, gwahaniaethwyd y gwyddoniaethau naturiol oddi wrth diwinyddiaeth a'r gwyddoniaethau cymdeithasol ar un llaw, a'r celfyddydau a dyniaethau ar y llaw arall.

Gwyddoniaeth bur[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg Prif erthygl: Gwyddoniaeth bur

Cangen o wyddoniaeth sy'n disgrifio'r gwrthrychau a'r grymoedd mwyaf gwaelodol a sylfaenol ynghyd â'r berthynas rhyngddynt a'r deddfau sy'n eu llywodraethu fel y gellir dweud fod pob ffenomen naturiol yn deillio ohonynt yw gwyddoniaeth bur neu wyddoniaeth waelodol (Saesneg: fundamental science).

Gwyddoniaeth gymhwysol[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg Prif erthygl: Gwyddoniaeth gymhwysol

Defnyddio gwybodaeth wyddonol a'i chymhwyso i broblemau ymarferol yw gwyddoniaeth gymhwysol.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am gwyddoniaeth
yn Wiciadur.