Diamedr

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cylch, gyda'i gylchedd (C) mewn du, diamedr (D) mewn glas golau, radiws (R) mewn coch, a'i ganolbwynt (neu 'dardd') (O) mewn magenta.

Mewn geometreg, diamedr cylch yw unrhyw linell segment syth sy'n mynd trwy ganol y cylch a sydd â'i ddiweddbwyntiau yn gorwedd ar ymyl y cylch. Mewn geomtreg modern, mae diamedr hefyd yn cyfeirio at hyd y linell hon.

Diamedr yw cord hiraf cylch, ac mae'n ddwywaith maint radiws y cylch. Gellir ei ddiffinio hefyd fel cord hiraf y cylch. Mae'r ddau ddiffiniad hefyd yn ddilys ar gyfer diamedr sffêr. Ym mhob cylch, mae pob llinell o'i ganol i'r ochr (y diamedr) yr un hyd, sef dwywaith y radiws r.

Diffinnir diamedr siâp amgrwm yn y plân fel pellter mwyaf y gellir ei ffurfio rhwng dwy linell gyfochrog sydd gyferbyn a'i gilydd; ffurfir y lled gan y pellter lleiaf. Teclyn defnyddiol a hwylus i wneud hyn yw'r caliper tro.[1]

Ar gyfer cromlin o led cyson (e.e. y triongl Reuleaux), mae'r lled a'r diamedr yr un fath oherwydd mae gan bob pâr o'r llinellau tangiad cyfochrog hyn (parallel tangent lines) yr un pellter.

Geirdarddiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Daw'r gair 'diamedr' o'r Hen Roeg διάμετρος (diametros), "diamedr cylch". Mae'n air cyfansawdd, ac yn gyfuniad o ddau air: διά (dia), "ar draws, trwy" a μέτρον (metron), "mesur".[2] Caiff ei dalfyrru'n aml i: DIA, dia, d, neu .

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]