Ffugwyddoniaeth

Oddi ar Wicipedia

Ffugwyddoniaeth yw rhywbeth sy’n ymddangos fel gwyddoniaeth heb adlynu at y dull gwyddonol.

Yr alcemydd Hennig Brand yn darganfod ffosfforws wrth chwylio am y fformwla i wneud aur o blwm. (manylyn o ddarlun gan Joseph Wright.)

Adnabod ffugwyddoniaeth[golygu | golygu cod]

Mae ffygwyddoniaeth yn cael ei nodweddu gan y canlynol;-

Diffyg cynnydd[golygu | golygu cod]

Ni fydd ymarferwyr ffugwyddoniaeth yn gwneud digon o arbrofion i weld a ydy eu syniadau yn ddibynnol ac fyddan nhw ddim yn cadw nodiadau digon manwl. Mae ganddyn nhw gymaint o ffydd yn eu damcaniaethau fel eu bod yn dueddol i beidio sylwi ar unrhyw beth amheus. Fe fyddan nhw'n gwrthod dysgu o’u profiadau, a ddim yn cywiro eu camgymeriadau. Mae yna ddiffyg symud ymlaen.

Defnyddio iaith gamarweiniol[golygu | golygu cod]

Fe fydd ffugwyddonydd yn creu geiriau mawr sy’n swnio’n dechnegol er mwyn twyllo’r rhai sydd ddim yn deall gwyddoniaeth. Galw dŵr yn "hidrogen deuocsid" er enghraifft.

Personolyddiaeth[golygu | golygu cod]

Mae yna glymbleidiaeth rhwng yr ymarferwyr, a maen nhw'n dueddol i gyrraedd at benderfyniadau direswm heb brofi eu syniadau. Fe fyddant yn cyhuddo gwyddonwyr o gynllwynio yn eu herbyn. Fe fyddant yn ystyried beirniaid fel gelynion ac yn eu sarhau yn bersonol.

Llinellau terfyn[golygu | golygu cod]

Theophrastus Paracelsus.
Gwnaeth Paracelsus chwildroi meddygaeth wrth ddamcanu mai clefyd oedd yn achosi afiechyd, nid anghydbwysedd hylifau'r corff. Er hynny, roedd e'n gwneud y gamgymeriad o geisio trin arwyddion afiechyd, yn hytrach na thrin y clefyd.

Mae llawer o ymryson dros y linell derfyn rhwng gwyddoniaeth a ffugwyddoniaeth. Mae ambell i ffugwyddonydd wedi darganfod pethau sy'n ddefnyddiol mewn gwyddoniaeth.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]