Byddin Dinasyddion Iwerddon

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Byddin Dinasyddion Iwerddon
Irish Citizen Army
Arm Cathartha na hÉireann
Cyfranogwr yn
Irish Citizen Army Group Liberty Hall Dublin 1914.jpg
Aelodau o Fyddin Dinasyddion Iwerddon y tu allan i Liberty Hall, gyda baner yn datgan: "We serve neither King nor Kaiser but Ireland"
Yn weithredol 1913–1947
Arweinwyr
Pencadlys Dulyn
Cryfder ~300
Cynghreiriaid Gwirfoddolwyr Gwyddelig
Gwrthwynebwyr Yr Ymerodraeth Brydeinig
Lloegr
Rhyfeloedd a brwydrau

Grŵp o ddinasyddion Gwyddelig, o'r Undebau llafur yn bennaf oedd Byddin Dinasyddion Iwerddon (Gwyddeleg: Arm Cathartha na hÉireann; Saesneg: Irish Citizen Army), neu'r ICA. Aelodau o'r Irish Transport and General Workers' Union yn Nulyn oedd sefydlwyr y Fyddin, yn bennaf, ac yn eu plith roedd: James Larkin, James Connolly a Jack White ar 23 Tachwedd 1913.[1] Aelodau nodedig eraill oedd: Seán O'Casey, Constance Markievicz, Francis Sheehy-Skeffington a P. T. Daly. Yn 1916, bu aelodau'r fyddin yn rhan o Wrthryfel y Pasg - gwrthryfel yn erbyn byddin a hawl Prydain i reoli Iwerddon.[2]

Y 'Locawt'[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffurfiwyd y fyddin o ganlyniad i streic yr Irish Transport and General Workers Union yn 1913, a adnabyddid yn lleol fel the Dublin Lockout. Achos y streic oedd penderfyniad y diwydiannwr William Martin Murphy ar 19 Awst 1913 i atal gweithwyr a oedd yn aelodau o'r undeb rhag dod i'r gwaith. Dilynwyd ei esiampl gan gwmnioedd eraill. Galwodd Larkin, a oedd yn undebwr rhonc, am streic ar reilffyrdd a thramiau'r ddinas (sef y Dublin United Tramway Company) a chynyddodd eu rhengoedd fel caseg eira, hyd nes bod 25,000 o weithwyr ar streic. Er mwyn amddiffyn eu hunain ffurfiodd y streicwyr grwpiau o 'filisia' (neu 'lled-filwyr') er mwyn gwarchod hawliau'r streicwyr a phenodwyd swyddogion yn eu plith. Arestiwyd Larkin a chymerodd ei Ddirprwy, James Connolly, afael yn y llyw. Sefydlodd bedair catrawd o ddynion a rhoddwyd arfau iddynt.

Cofeb i aelodau o Fyddin Dinasyddion Iwerddon

Yn economaidd, parlyswyd Dulyn gan y streic, a bu cryn derfysgoedd ar y strydoedd: rhwng y streicwyr a Heddlu Metropolitan Iwerddon, yn enwedig yn Stryd OConnel ar 31 Awst, pan gurwyd dau ddyn a'u lladd ac anafwyd 500 o bobl; bu farw trydydd yn ddiweddarach o'i glwyfau.[3] Ffyn (hurleys a ddefnyddid yn y gêm 'hurling' traddodiadol) oedd arfau'r dinasyddion i amddiffyn eu hunain. Hyfforddwyd byddin fechan Connolly gan James White undebwr llafur a oedd wedi treulio cyfnod yn gapten yn y fyddin Brydeinig. Rhoddodd bâr o esgidiau da i bob un oedd yn eu recriwtio.

Yn Ionawr, wedi cyfnod o chwe mis, dychwelodd y streicwyr yn ôl i'w gwaith; methiant oedd eu hymdrech, ond bu ffurfio 'Byddin y Dinasyddion' yn llwyddiant ysgubol i'r ymgyrch dros annibyniaeth i Iwerddon.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Charles Townshend, "Easter 1916: The Irish Rebellion", tud.41.
  2. Townshend, tud.46.
  3. Yeates, P Lockout: Dublin 1913, Gill and Macmillan, Dublin, 2000, Pages 497-8