Seán O'Casey

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Seán O'Casey
Sean ocasey 1924.jpg
Ganwyd 30 Mawrth 1880 Edit this on Wikidata
Dulyn Edit this on Wikidata
Bu farw 18 Medi 1964 Edit this on Wikidata (84 oed)
Torquay Edit this on Wikidata
Gwaith Dramodydd, sgriptiwr, bardd, awdur Edit this on Wikidata
Aelod o Y Frawdoliaeth Wyddelig Weriniaethol Edit this on Wikidata
Priod Eileen O'Casey Edit this on Wikidata
Plant Breon O'Casey Edit this on Wikidata
Gwefan http://www.seanocasey.co.uk/ Edit this on Wikidata

Roedd Seán O'Casey (Gwyddeleg: Seán Ó Cathasaigh) (30 Mawrth 1880 - 18 Medi 1964) yn ddramodydd, sosialydd a chymeriad o gryn bwys yn llenyddiaeth gyfoes Iwerddon.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i anwyd yn Nulyn ar y 30eg o Fawrth, 1880 i deulu tlawd. Bu farw tad O'Casey pan oedd yn chwech oed ac oherwydd nam ar ei olwg prin y cafodd addysg ffurfiol. Gadawodd yr ysgol yn 14 oed a gweithiodd ar y rheilffordd am gyfnod. Priododd yr actores Eileen Carey Reynolds yn 1927 tra yn Llundain ac fe anwyd dau fab ac un ferch iddynt. Bu farw ar y 18fed o Fedi 18ed 1964 yn Torquay, Lloegr.

Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymunodd O'Casey efo'r Conradh na Gaeilge yn 1906 a dysgodd rhywfaint o Wyddeleg. Defnyddiai'r fersiwn Gwyddeleg o'i enw, sef Seán Ó Cathasaigh. Cymerodd ddiddordeb yn yr Irish Transport and General Workers Union, dan Jim Larkin. Daeth yn Ysgrifennydd Cyffredinol yr Irish Citizen Army ym Mawrth 1914, yn rhagflaenydd i James Connolly. Ond roedd yn rhy fodlon cymodi ac yn rhy elyniaethus i'r IRA. Ym 1917, bu farw ei ffrind Thomas Ashe ar Streic Llwgu. A dyna ddiwedd ei gyfnod politicaidd.

Y tŷ lle ysgrifenodd O' Casey The Dublin Trilogy.

Theatr[golygu | golygu cod y dudalen]

Ysgrifenodd ddramau o hyn ymlaen ar themâu Gwyddelig. Cafwyd ymateb ffyrnig yn erbyn The Plough and the Stars (1926); debyg i'r terfysg yn erbyn John Millington Synge a'i The Playboy of the Western World yn 1907. Roedd rhyw a chrefydd yn drech na'r moesau ar y pryd. Ond y peth cryfa yn ei erbyn oedd aralleirio geiriau Pádraig Pearse a fflangellu'r hyn a ystyriai fel "holl ffug-rhamanteiddio" arwyr Gwrthryfel y Pasg. (Gwyddeleg: Éirí Amach na Cásca). Enillodd ddigon o elynion wedyn.

Daeth i Brydain, byth i ddychwelyd i fyw yn Iwerddon, yn 1927 er mwyn derbyn y wobr Hawthornden ac i gynhyrchu Juno and the Paycock, ac yn 1928 gwrthododd ei ddrama The Silver Tassie gan W. B. Yeats ar gyfer Theatr yr Abaty Dulyn, felly llwyfanodd y ddrama yn Llundain efo set gan Augustus John. Arhosodd yn Lloegr. Ysgrifenodd The Star Turns Red (1940), drama a seilwyd ar fywyd yr undebwr James Larkin) ac sy'n feirniadaeth lem ar gymdeithas Iwerddon a'r Eglwys Gatholig Rufeinig yn arbennig. Wedi ei farwolaeth aeth ei bapurau dros y byd, yn cynnwys casgliadau yn Llyfrgell Gyhoeddus Efrog Newydd, Llyfrgell Prifysgol Cornell, Llyfrgell Tŷ'r Senedd, Prifysgol Llundain, a Llyfrgell Genedlaethol Iwerddon.

Gwaith[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Lament for Thomas Ashe (1917), dan y fersiwn Gwyddeleg o'i enw Sean O'Cathasaigh
  • The Story of Thomas Ashe (1917), dan y fersiwn Gwyddeleg o'i enw Sean O'Cathasaigh
  • Songs of the Wren (1918), dan y fersiwn Gwyddeleg o'i enw Sean O'Cathasaigh
  • More Wren Songs (1918), dan y fersiwn Gwyddeleg o'i enw Sean O'Cathasaigh
  • The Harvest Festival (1918)
  • The Story of the Irish Citizen Army (1919), dan y fersiwn Gwyddeleg o'i enw Sean O'Cathasaigh
  • The Shadow of a Gunman (1923)
  • Kathleen Listens In (1923)
  • Juno and the Paycock (1924)
  • Nannie's Night Out (1924)
  • The Plough and the Stars (1926) (fersiwn Llydaweg: An Arar hag ar Stered 1993)
  • The Silver Tassie (1927)
  • Within the Gates (1934)
  • The End of the Beginning (1937)
  • A Pound on Demand (1939)
  • The Star Turns Red (1940)
  • Red Roses for Me (1942)
  • Purple Dust (1940/1945)
  • Oak Leaves and Lavender (1946)
  • Cock-a-Doodle Dandy (1949)
  • Hall of Healing (1951)
  • Bedtime Story (1951)
  • Time to Go (1951)
  • The Bishop's Bonfire (1955)
  • A Sad Play within the Tune of a Polka (1955)
  • The Drums of Father Ned (1959)
  • Behind the Green Curtains (1961)
  • Figuro in the Night (1961)
  • The Moon Shines on Kylenamoe (1961)
  • Niall: A Lament (1991)
  • Hunangofiant (6 cyfrol):Mirror in my House 1965.
    • I Knock at the Door
    • Pictures in the Hallway
    • Drums Under the Window
    • Inishfallen Fare Thee Well
    • Rose and Crown
    • Sunset and Evening Star

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Krause, David. Seán O'Casey and his World. New York: C. Scribner's, 1976. ISBN 0-5001305-5-8
  • Irish Writers on Writing featuring Seán O'Casey. Edited by Eavan Boland ; Trinity University (Texas) Trinity University Press, 2007.
  • Schrank, Bernice. Sean O'Casey: A Research and Production Sourcebook. Greenwood Press, 1996. ISBN 0-313-27844-X

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]