Carchar Kilmainham

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Kilmainham Gaol (Príosún Chill Mhaighneann)
Cofeb i 'ferthyron' Rhyfel y Pasg.
Model o'r carchar

Cyn-garchar Prydeinig yw Kilmainham Gaol (Gwyddeleg: Príosún Chill Mhaighneann) a ddefnyddiwyd i ddal nifer o chwyldroadwyr Cenedlaetholgar Gwrthryfel y Pasg (1916) yn garcharorion a'u dienyddio. Mae bellach yn amgueddfa ac ar agor i'r cyhoedd. Adnewyddwyd yr hen adeilad yn y 1950au.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Y mae hanes y carchar yn rhychwantu cyfnod pwysig yn hanes Iwerddon. Fe'i codwyd adeg y Ddeddf Uno, a'i gau yn dilyn sefydlu Saorstáit Éireann (Gwladwriaeth Rydd Iwerddon). Pan godwyd yr adeilad yn gyntaf yn 1796, fe'i galwyd "an priosún nua" ('y carchar newydd') i wahaniaethu rhyngddo a'r hen garchar tua dau gan metr i ffwrdd. Yna fe'i galwyd yn "Garchar Dinas Dulyn". Arferid crogi pobl o flaen y carchar yn dyddiau cynnar, ond ychydig iawn a grogwyd - yn gyhoeddus neu fel arall - o'r 1820au ymlaen.[1] Adeiladwyd 'cell grogi' yma yn 1819, ar y llawr cyntaf, rhwng yr adain ddwyreiniol a'r adain orllewinol.[1]

Cedwid i fyny at bump o bobl ymhob cell, heb wahanu o ran rhyw nag oedran: bu i blant mor ifanc â saith rannu cell gyda merched a dynion. Byddai ganddynt un gannwyll, a rhaid i honno bara am bythefnos. Prin fod iddynt gynhesrwydd na golau o gwbwl. Roedd pob cell ryw 28 metr sgwâr.[1] Yn aml y gwelid yr oedolion yn cael eu dedfrydu i'w halltudio i Awstralia.

Cyn-garcharorion[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Henry Joy McCracken, 1796
  • Oliver Bond, 1798 (bu farw yma)
  • James Bartholomew Blackwell, 1799
  • James Napper Tandy, 1799
  • Robert Emmet, 1803
  • Anne Devlin, 1803
  • Thomas Russell, 1803
  • Michael Dwyer, 1803
  • William Smith O'Brien, 1848
  • Thomas Francis Meagher, 1848
  • Diarmaid Ó Donnabháin Rosa, 1867
  • John O'Connor Power, 1868
  • J. E. Kenny, 1881
  • Charles Stewart Parnell, 1881
  • William O'Brien, 1881
  • James Joseph O'Kelly, 1881
  • John Dillon, 1882
  • Willie Redmond, 1882
  • Joe Brady (llofruddiaethau Phoenix Park), 1883
  • Daniel Curley (llofruddiaethau Phoenix Park), 1883
  • Tim Kelly (llofruddiaethau Phoenix Park), 1883
  • Thomas Caffrey (llofruddiaethau Phoenix Park), 1883
  • Michael Fagan (llofruddiaethau Phoenix Park), 1883
  • Michael Davitt
  • Pádraig Mac Piarais (Patrick Pearse), 1916
  • Willie Pearse (brawd iau Patrick Pearse), 1916
  • Séamus Ó Conghaile (James Connolly) (saethwyd yn farw), 1916
  • Conn Colbert, 1916
  • Constance Markievicz, 1916
  • Éamon de Valera, 1916
  • Paul Galligan, 1916
  • John MacBride, 1916
  • Seosamh Pluincéad (Joseph Plunkett), 1916
  • Michael O'Hanrahan, 1916
  • Edward Daly, 1916
  • Grace Gifford (gwraig Joseph Plunkett), 1922
  • Ernie O'Malley
  • Peadar O'Donnell
  • Frank McBreen
  • Thomas MacDonagh, 1916
  • Tom Clarke, 1916
  • Mairead De Lappe (cyfnod Rhyfel Cartref Iwerddon; mam y darlledwr Proinsias Mac Aonghusa)
  • Madeleine Ffrench-Mullen, 1916

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 "Kilmainham Jail, Dublin". Tourist-information-dublin.co.uk. http://www.tourist-information-dublin.co.uk/kilmainham-jail.htm. Adalwyd 2013-06-28.