Seosamh Máire Pluincéid

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Joseph Plunkett)
Neidio i: llywio, chwilio
Seosamh Máire Pluincéid

Roedd Seosamh Máire Pluincéid en: Joseph Mary Plunkett (21 Tachwedd 1887 - 4 Mai 1916) yn genedlaetholwr, bardd, a newyddiadurwr Gwyddelig ac yn un o arweinyddion Gwrthryfel y Pasg 1916.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Pluincéid yn 26 Upper Fitzwilliam Street yn un o gymdogaethau mwyaf cefnog Dulyn. Daeth ei ddau riant o gefndiroedd cyfoethog. Cafodd ei dad, George Noble Plunkett ei urddo yn Iarll gan y Pab[2]. Er ei fod wedi ei eni i fywyd breintiedig, ni fu ei blentyndod yn un hawdd. Cafodd Pluincéid ei daro gan y diciâu yn blentyn ifanc, bu hyn yn faich gydol oes iddo. Treuliodd rhan o'i ieuenctid yn hinsoddau cynnes ger Môr y Canoldir ac yng ngogledd Affrica.[3]

Derbyniodd ei addysg yn Ysgol y Brifysgol Gatholig a gan y Jeswitiaid yng Ngholeg Belvedere, Dulyn ac yng Ngholeg Stonyhurst, ysgol fonedd Gatholig yn Swydd Gaerhirfryn, lle derbyniodd rywfaint o hyfforddiant milwrol trwy'r Corfflu Hyfforddi Swyddogion. Trwy gydol ei oes, bu gan Pluincéid ddiddordeb byw mewn treftadaeth Iwerddon a'r iaith Wyddeleg. Bu hefyd yn astudio Esperanto gan ddod yn un o sylfaenwyr Cynghrair Esperanto yr Iwerddon. Ymunodd â'r Gynghrair Gaeleg a dechreuodd astudio gyda Tomás Mac Donnchadha, gan fagu cyfeillgarwch gydol oes. Roedd y ddau yn feirdd oedd â diddordeb yn y theatr, ac roedd y ddau yn aelodau cynnar o'r Gwirfoddolwyr Gwyddelig, gan ymuno a'i bwyllgor rheoli. Cafodd diddordeb Pluincéid mewn cenedlaetholdeb Gwyddelig ei lledaenu i aelodau eraill o'i deulu, yn arbennig ei frodyr iau George a John, yn ogystal â'i dad, a ganiataodd i'w eiddo yn Kimmage, Dulyn, cael ei ddefnyddio fel gwersyll hyfforddi ar gyfer dynion ifanc a oedd yn dymuno osgoi consgripsiwn i fyddin Prydain adeg y Rhyfel Byd Cyntaf a chael eu hyfforddi i ymladd dros achos rhyddid yr Iwerddon.

Aelodaeth o'r IRB[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhywbryd ym 1915 ymunodd Pluincéid a'r Frawdoliaeth Wyddelig Weriniaethol (yr IRB)[4] a chafodd ei anfon i'r Almaen, ar ran y frawdoliaeth, i gwrdd â Roger Casement. Roedd Casement yn negodi gyda llywodraeth yr Almaen ar ran Iwerddon. Roedd Casement wedi penodi ei hun i drafod gydag awdurdodau'r Almaen ac roedd arweinyddiaeth y frawdoliaeth yn dymuno cael un o'i aelodau i fod yn rhan o'r trafodaethau. Roedd Casement yn treulio'r rhan fwyaf o'i egni yn recriwtio carcharorion rhyfel Gwyddelig i ffurfio brigâd i ymladd dros Iwerddon; roedd aelodau'r IRB yn credu bod hynny yn ymdrech ofer ac am i'r ddau geisio dwyn perswâd ar yr Almaen i ddarparu arfau ar gyfer gwrthryfel arfaethedig 1916. Bu'r ymgais yn un llwyddiannus a chafwyd addewid o longiad o arfau ar gyfer y chwyldro. Yn ddiweddarach, crogwyd Casement am ei ran yn yr ymgais i gaffael arfau.

Gwrthryfel y Pasg[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Pluincéid yn un o aelodau gwreiddiol Pwyllgor Milwrol yr IRB a oedd yn gyfrifol am gynllunio Gwrthryfel y Pasg, ac ef oedd yn bennaf gyfrifol am y cynllun a geisiwyd ei ddilyn dros fwrw'r Pasg. Ychydig cyn y gwrthryfel treuliodd Pluincéid gyfnod yn yr ysbyty o ganlyniad i broblemau iechyd yn deillio o'r diciâu gan dderbyn llawdriniaeth ar chwarennau ei wddf, bu'n rhaid iddo godi o'i wely gan wingo er mwyn chware ei ran yn y gwrthryfel. Cymerodd ei le yn y Swyddfa Bost Gyffredinol mewn rhwymynnau ond roedd cyflwr ei iechyd yn ei atal rhag bod yn rhy weithredol.

Priodas a dienyddiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi Gwrthryfel y Pasg yn Nulyn, ac yn dilyn yr ildio carcharwyd Pluincéid yng Ngharchar Kilmainham gan ymddangos o flaen llys milwrol gan gael ei ddedfrydu i'w dienyddio gan sgwad-saethu. Saith awr cyn ei ddienyddio priododd ei gariad Grace Gifford, chwaer i Muriel priod Tomás Mac Donnchadha cyfaill pennaf Pluincéid ac un arall o ferthyron y gwrthryfel.[5]. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Arbour Hill, Dulun.[6]

Adladd[golygu | golygu cod y dudalen]

Tŵr Plunkett, Ballymun

Bu brodyr Pluincéid George Oliver a Jack Plunkett yn chware rhan yn Gwrthryfel y Pasg[7] gan ddod yn aelodau dylanwadol o'r IRA yn niweddarach. Roedd cefnder i'w dad, Horace Plunkett, yn Unoliaethwr Protestannaidd a oedd yn ceisio creu cymod rhwng yr unoliaethwyr a'r cenedlaetholwyr. Cafodd cartref Horace ei losgi gan yr IRA Gwrth Cytundeb yn ystod Rhyfel Cartref yr Iwerddon. Cafodd yr Iarll Plunkett, tad Seosamh, ei ethol yn Aelod Seneddol dros etholaeth Gogledd Roscommon[8]

Y mae prif orsaf reilffordd yn Dinas Waterford wedi ei henwi er coffa amdano fel y mae Tŵr Joseph Plunkett yn Ballymun a barics Plunkett yng ngwersyll milwrol y Curragh, Swydd Kildare

Gwaith Pluincéid ar Internet Archive [3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Katherine Mullin, ‘Plunkett, Joseph Mary (1887–1916)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004; online edn, May 2007 accessed 19 March 2016
  2. [Count Plunkett] George Noble Plunkett [1] adalwyd 18 Mawrth 2016
  3. O'Neill, Marie (2000). Grace Gifford Plunkett and Irish freedom: tragic bride of 1916. Dublin: Irish Academic Press. p. 18. ISBN 978-0-7165-2666-7. 
  4. Poems of the Irish Revolutionary Brotherhood
  5. "MARRIED AT MIDNIGHT - Herald of Wales and Monmouthshire Recorder". [s.n.]. 1916-05-13. http://hdl.handle.net/10107/4115183. Adalwyd 2016-03-19.
  6. Find a Grave Joseph Mary Plunkett [2] adalwyd 19 Mawrth 2016
  7. "REBELSBOUNDEDUPI - The Cambria Daily Leader". Frederick Wicks. 1916-05-08. http://hdl.handle.net/10107/4101499. Adalwyd 2016-03-19.
  8. "1COUNT PLUNKETT MP - The Cambria Daily Leader". Frederick Wicks. 1917-02-06. http://hdl.handle.net/10107/4103045. Adalwyd 2016-03-19.