Angharad Price
| Angharad Price | |
|---|---|
| Ganwyd | Angharad Price 1972 Bangor |
| Man preswyl | Caernarfon |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | ysgrifennwr, critig, gohebydd gyda'i farn annibynnol, cyfieithydd, beirniad llenyddol, academydd, ysgolhaig llenyddol |
| Swydd | athro cadeiriol |
| Cyflogwr | |
| Adnabyddus am | O! Tyn y Gorchudd |
| Tad | Emyr Price |
| Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru |
Nofelydd ac academydd Cymraeg yw'r Athro Angharad Price (ganwyd 1972). Enillodd Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru Tyddewi 2002 am ei nofel O! Tyn y Gorchudd, ac enwyd y gyfrol yn Llyfr y Flwyddyn yn 2003. Cyrhaeddodd Ffarwel i Freiburg, Ymbapuroli a Nelan a Bo restr fer llyfr y flwyddyn yn 2014, 2021 a 2025. Enillodd Angharad Fedal Glyndŵr yn 2014.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed Angharad Price ym Mangor, yn ferch i'r hanesydd Emyr Price (1944–2009) a Mair, sy'n enedigol o Ddinas Mawddwy. Yn enedigol o Fethel, Gwynedd, fe'i ganwyd yn Ysbyty Gwynedd, Bangor 'yn fop o wallt du' chwedl ei thad (gweler Fy hanner canrif i gan Emyr Preis, Gwasg y Lolfa).
Graddiodd mewn ieithoedd modern yng Ngholeg yr Iesu Rhydychen, a chafodd ddoethuriaeth am ei hastudiaeth o ryddiaith Gymraeg y 1990au. Roedd hi'n aelod o Gymdeithas Dafydd ap Gwilym. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002 gyda'r nofel O! Tyn y Gorchudd (Gomer) ac enwyd y gyfrol yn Llyfr y Flwyddyn yn 2003. Yn 2024, roedd hi'n Athro yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.[1]
Llenyddiaeth
[golygu | golygu cod]| “ |
'Mae llyfr Price yn cyflawni camp brin. Mae'n gofnod cariadus o fywyd gwledig y siaradwyr Cymraeg ar fin diflannu neu o leiaf drawsnewid, mae'n gwasanaethu fel dogfen gyfforddus, dyner ac fel ymarfer celfydd iawn yn y grefft o adrodd straeon – a gall, o ran dull hawlio lle ar y silff ochr yn ochr â Berger, Sebald ac Ondaatje. Wedi'i ganmol yn eang fel clasur Cymraeg cyntaf yr 21g, mae'r nofel bellach yn sefyll yn dalsyth, ac yn uchafbwynt ysgrifennu Prydeinig modern hefyd.'
|
” |
Cyhoeddwyd ei nofel ffug-hunangofiannol O! Tyn y Gorchudd yn 2002; y gyfrol hon a enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Tyddewi 2002. Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2003 gyda'r un llyfr.
Cyrhaeddodd ei llyfr, Caersaint restr fer gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2011.
Cyhoeddwyd ei nofel Nelan a Bo yn Tachwedd 2024. Dywedodd Angharad mewn cyfweliad: "Hanes fy mhentre genedigol sydd yma mewn gwirionedd, sef Bethel ger Caernarfon."[3]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Smentio Sentiment: Beirdd Concrid Grŵp Fiena 1954-1964, Cyfres Cynnyrch Gwobr Goffa Saunders Lewis (Cronfa Goffa Saunders Lewis, 1996)
- Tania'r Tacsi (Gwasg Gomer, 1999)
- Llên y Llenor: Robin Llywelyn (Gwasg Pantycelyn, 2000)
- O! Tyn y Gorchudd (Gwasg Gomer, 2002), wedi'i gyfieithu gan Lloyd Jones fel The Life of Rebecca Jones/O! Tyn y Gorchudd (Gwasg Gomer, 2010)
- Cyfieithiad Saesneg gan Lloyd Jones: The Life of Rebecca Jones (Gwasg Gomer, 2010)
- Mae O! Tyn y Gorchudd wedi'i gyfieithu i'r Almaeneg, Bengaleg, Catalaneg, Rwmaneg a Sbaeneg.
- Rhwng Gwyn a Du: Agweddau ar Ryddiaith Gymraeg y 1990, Y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig (Gwasg Prifysgol Cymru, 2002)
- Llên y Llenor: Gwrthddiwygwyr Cymreig yr Eidal (Gwasg Pantycelyn, 2005)
- Caersaint (Y Lolfa, 2010)
- Trysorau Cudd Caernarfon (Gwasg Carreg Gwalch, 2018)
- Gororion (Gwasg Carreg Gwalch, 2023)
- Ffarwél i Freiburg: Crwydriadau Cynnar T. H. Parry Williams (Gwasg Gomer, 2013)
- Ymbapuroli (Gwasg Carreg Gwalch, 2020)
- Nelan a Bo (Y Lolfa, 2024)
Dramâu
[golygu | golygu cod]- Nansi (Theatr Genedlaethol Cymru; Mehefin 2016; ISBN 9781784612993), Taith ledled Cymru yn 2016, yn cynnwys theatrau Criccieth, Llanfair Caereinion, Penarth, Aberaeron a Tymbl.[4]
- Congrinero (Cynhyrchydd: Mewn Cymeriad) yn 2025. Cyfarwyddwr: Janet Aethwy. Drama Gymraeg am fywyd cynnar y bardd T. H. Parry-Williams, yn ystod y cyfnod o ryfel ac argyfwng personol.
Papurau
[golygu | golygu cod]Mae Angharad Price wedi cyhoeddi 46 o gyhoeddiadau ymchwil yn cynnwys beirniadaeth lenyddol, astudiaethau cyfieithu, a theori ysgrifennu creadigol. Ymhlith ei phrif feysydd academaidd mae:
- Rhyddiaith Gymraeg fodern
- Llenyddiaeth gymharol ac astudiaethau cyfieithu
- Ysgrifennu creadigol
- Astudiaethau ar T. H. Parry-Williams
- Ysgrifennu ar hunaniaeth Gymreig a'r dychymyg llenyddol
Mae hefyd wedi goruchwylio traethodau PhD mewn llenyddiaeth Gymraeg ac ysgrifennu creadigol, gan gyfrannu'n helaeth at drafodaethau academaidd a mentora.
Crynoddisgiau
[golygu | golygu cod]- O! Tyn y Gorchudd (Caerdydd: Tympan, 2003)
Gwobrau ac anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Y Fedal Ryddiaith, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Tyddewi 2002 - O! Tyn y Gorchudd
- 'O! Tyn y Gorchudd, Llyfr y Flwyddyn yn 2003
- Enillodd Angharad Fedal Glyndŵr yn 2014.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Tudalen yr awdures ar wefan Prifysgol Bangor". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-06-07. Cyrchwyd 2009-06-01.
- ↑ Cyfnewidfa Lên Cymru; adalwyd 11 Medi 2025.
- ↑ "Pum munud gyda... Angharad Price". BBC Cymru Fyw. 2024-11-13. Cyrchwyd 28 Rhagfyr 2024.
- ↑ research.bangor.ac.uk; adalwyd 11 Medi 2025.