Ifor ap Glyn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ifor ap Glyn
Ganwyd 1962 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Man preswyl Dinbych, Caernarfon Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth bardd, cynhyrchydd teledu, sgriptiwr Edit this on Wikidata

Bardd Cymraeg yw Ifor ap Glyn (ganwyd Gorffennaf 1961). Enillodd y Goron ym 1999 - am ei gerdd Golau yn y Gwyll, ac yn 2013 am ei gerdd "Terfysg".[1] Fel bardd, mae wedi perfformio'i waith ar draws y byd. Yng Nghymru, mae'n aelod o dîm Talwrn y Beirdd Caernarfon, a bu'n Fardd Plant Cymru rhwng 2008 a 2009. Fe yw Bardd Cenedlaethol Cymru presennol.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i ganwyd a magwyd yn Llundain i rieni Cymraeg.[2] Astudiodd ym Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, ac ar ôl graddio a byw yn y brifddinas am gyfnod, fe symudodd i Ddinbych, cyn ymgartrefu yng Nghaernarfon gyda'i deulu. Sefydlodd, gydag eraill, gwmni cynhyrchu ffilm a theledu o'r enw Cwmni Da, sydd wedi ennill sawl gwobr am ei waith ym maes rhaglenni hanes a ffeithiol.[3]

Ar 1 Mawrth 2016 cyhoeddwyd y byddai'n olynu Gillian Clarke fel Bardd Cenedlaethol Cymru gan ddechrau ar y gwaith yn Mai 2016.[2]

Ar 17 Gorffennaf 2017 derbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor.[4]

Gwaith creadigol[golygu | golygu cod y dudalen]

Llyfrau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Holl Garthion Pen Cymro Ynghyd. Y Lolfa, 1991
  • Golchi Llestri Mewn Bar Mitzvah. (gyda Dewi Glyn Jones), 1998
  • Cerddi Map yr Underground. Gwasg Carreg Gwalch, 2001
  • Lleisiau'r Rhyfel Mawr. 2008
  • Waliau'n Canu. Gwasg Carreg Gwalch, 2011

Rhaglenni teledu[golygu | golygu cod y dudalen]

Ifor ap Glyn oedd cyflwynydd a chynhyrchydd y rhaglenni isod:

  • Lleisiau'r Rhyfel Mawr
  • Popeth yn Gymraeg
  • Ar Lafar
  • Frongoch – Birthplace of the IRA
  • Tai Bach y Byd / The Toilet – an Unspoken History
  • Llefydd Sanctaidd

Theatr[golygu | golygu cod y dudalen]

Ysgrifennodd Ifor ap Glyn y sioeau theatr isod:

  • Branwen
  • Frongoch

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. [Terfysg Gwefan y BBC]; adalwyd 07 Awst 2013
  2. 2.0 2.1 Ifor ap Glyn yw'r Bardd Cenedlaethol newydd , BBC Cymru Fyw, 1 Mawrth 2016.
  3. http://www.cwmnida.tv/amdanom-ni/ifor-ap-glyn/
  4.  Chris Coleman i’w anrhydeddu gan Brifysgol Bangor. Prifysgol Bangor (17 Gorffennaf 2017).

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]


Planned section.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.