Cwmni Da
| Enghraifft o: | cwmni cynhyrchu teledu |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 1997 |
| Pencadlys | Caernarfon |
| Gwladwriaeth | Cymru |
| Gwefan | https://www.cwmnida.cymru |
| Dynodwyr | |
Cwmni cynhyrchu rhaglenni teledu ydy Cwmni Da, sy'n creu rhaglenni teledu ar gyfer S4C, yn bennaf. Mae cynnyrch cenedlaethol a rhyngwladol y cwmni yn cynnwys rhaglenni ffeithiol, plant, comedi, adloniant, drama, digwyddiadau a chwaraeon. Mae Cwmni Da hefyd yn creu cynnwys ar gyfer y BBC, C4 ac yn cyd-gynhyrchu rhaglenni ar gyfer y farchnad ryngwladol.[1]
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer o gynyrchiadau'r cwmni wedi derbyn clod – yn genedlaethol yn ogystal ag ar y llwyfan rhyngwladol. Ymysg y gwobrau mae 9 Gwobr BAFTA Cymru, Prif Wobr yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd, Gwobr One World Media a’r wobr ryngwladol glodwiw: The Jules Verne Adventure Film Award. Cyrhaeddodd cynyrchiadau diweddar y cwmni restr fer gwobrau BAFTA UK yn ogystal â rhestr fer y Grierson Documentary Awards.[2]
Sefydlwyd y cwmni yn 1997 gan Dylan Huws, Ifor ap Glyn a Neville Hughes. Ar gychwyn y 2000au, unwyd gyda Tonfedd Eryri. Yn 2007 gwerthwyd cyfranddaliadau y ddau gyfarwyddwr arall i Dylan Huws.[3] Yn 2008 penderfynodd Huws drosglwyddo ei gyfranddaliadau i 'Ymddiriedolaeth ym Mherchnogaeth y Gweithwyr' fel bod y staff yn berchen y busnes. Mae'r Ymddiriedolwyr – sy;n cynnwys aelod o staff Cwmni Da – yw cadw golwg ar waith y cwmni.[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Amdanom ni - cwmnida.tv". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-25. Cyrchwyd 2012-03-07.
- ↑ Cwmni Da wins award for ‘brilliant’ documentary[dolen farw] Caernarfon & Denbigh 2/6/09
- ↑ Cwmni Da founder: Welsh television industry 'must evolve' , BBC News, 3 Ionawr 2019. Cyrchwyd ar 5 Hydref 2020.
- ↑ Staff i gael perchnogaeth cwmni teledu , BBC Cymru Fyw, 10 Hydref 2018. Cyrchwyd ar 5 Hydref 2020.