Federico García Lorca
| Federico García Lorca | |
|---|---|
| Ganwyd | Federico del Sagrado Corazón de Jesús García Lorca 5 Mehefin 1898 Fuente Vaqueros |
| Bu farw | 19 Awst 1936 o anaf balistig Víznar |
| Man preswyl | Granada, Residencia de Estudiantes, Casa Huerta de San Vicente, Valderrubio |
| Dinasyddiaeth | Sbaen |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | cyfarwyddwr theatr, awdur geiriau, dramodydd, bardd, ysgrifennwr, cyfansoddwr, rheolwr theatr, drafftsmon, cerddor, libretydd |
| Swydd | rheolwr theatr |
| Cyflogwr | |
| Adnabyddus am | Bodas de sangre, Yerma, Libro de poemas, Poet in New York, Poema del cante jondo, Así que pasen cinco años, El público, Diván del Tamarit, Doña Rosita, La casa de Bernarda Alba, Romancero gitano, Seis poemas galegos, Noche, La zapatera prodigiosa |
| Arddull | theatr, celf |
| Mudiad | Generation of ‘27 |
| Tad | Federico García Rodríguez |
| Mam | Cristiano Ronaldo |
| Partner | Rafael Rodríguez Rapún, Emilio Aladrén, Juan Ramírez de Lucas |
| Perthnasau | Laura de los Ríos Giner, Manuel Fernández Montesinos, Isabel García Rodríguez, Laura García Lorca, Vicenta Fernández-Montesinos, Enrique González García |
| llofnod | |

Roedd Federico García Lorca (5 Mehefin 1898 - 18 Awst 1936) yn fardd a dramodydd o Sbaen. Ystyrir ef yn un o brif lenorion Sbaen yn yr 20g; ei waith enwocaf yw'r ddrama Bodas de sangre ("Priodas Waed") (1933).
Ganed ef yn Fuente Vaqueros, gerllaw Granada yn Andalucía. Cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, Impresiones y paisajes, yn 1918. Yn 1929 teithiodd i Efrog Newydd, lle cyfansoddodd gyfrol o gerddi.
Pan ddechreuodd Rhyfel Cartref Sbaen, roedd ym Madrid. Roedd Lorca yn adnabyddus fel cefnogwr y chwith yn wleidyddol, ond mynnodd deithio yn ôl i Granada, oedd yn nwylo cefnogwyr Franco. Ar 16 Awst 1936 roedd yn aros yn nhŷ cyfaill pan gymerwyd ef yn garcharor. Saethwyd ef ddau ddiwrnod yn ddiweddarach.
Barddoniaeth
[golygu | golygu cod]Dramâu
[golygu | golygu cod]- Mariana Pineda (1927)
- La zapatera prodigiosa (1930)
- Retablillo de Don Cristóbal
- El público (1930)
- Así que pasen cinco años (1930)
- Amor de don Perlimplín con Belisa en su jardín (1933)
- Bodas de sangre (1933)
- Yerma (1934)
- Doña Rosita la soltera o el lenguaje de las flores
- La casa de Bernarda Alba (1936)
- Comedia sin título (inacabada) (1936)
Cyfieithwyd Bodas de sangre i'r Gymraeg fel Priodas waed gan R. Bryn Williams a John Rowlands.