Neidio i'r cynnwys

Richard Bryn Williams

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o R. Bryn Williams)
Richard Bryn Williams
Ganwyd28 Gorffennaf 1902 Edit this on Wikidata
Blaenau Ffestiniog Edit this on Wikidata
Bu farw26 Gorffennaf 1981 Edit this on Wikidata
Llanbadarn Fawr Edit this on Wikidata
Man preswylTrelew Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr, hanesydd, bardd Edit this on Wikidata
Arddullbarddoniaeth Edit this on Wikidata

Llenor, bardd, hanesydd a dramodydd oedd Richard Bryn Williams neu R. Bryn Williams (28 Gorffennaf 190226 Gorffennaf 1981)[1][2] a aned ym Mlaenau Ffestiniog yn yr hen Sir Feirionnydd (de Gwynedd).

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Aeth gyda'i rieni i fyw yn Nhrelew yn Chubut, Patagonia, yn fachgen saith mlwydd oed. Dychwelodd i Gymru yn 1923 ac astudiodd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru. Daeth yn arbenigwr ar hanes Y Wladfa ac yn gyfrannwr mawr i lenyddiaeth y dalaith honno.

Cefnogai'r Eisteddfod Genedlaethol a chystadlu ynddi. Enillodd y Gadair yn 1964 a 1968 a bu'n archdderwydd o 1975 hyd 1978. Mae bron y cyfan o'i waith yn adlewyrchu bywyd y Wladfa a'i hanes. Roedd yn awdur toreithiog.

Bu farw 26 Gorffennaf 1981 yn ei gartref, Camwy, yn Llanbadarn Fawr.[3] Fe'i claddwyd ym mynwent Tywyn. Ar ei fedd y mae'r geiriau 'LLADMERYDD HANES Y WLADFA GYMREIG – PATAGONIA'.

Carreg fedd R. Bryn Williams ym mynwent Tywyn.

Gwaith llenyddol

[golygu | golygu cod]
Siaced lwch Straeon Patagonia (1946) gan R. Bryn Williams

Llyfrau plant

[golygu | golygu cod]
  • Straeon Patagonia (1944)
  • Y March Coch (1954)
  • Bandit yr Andes (1956)
  • Croesi'r Paith (1958)
  • Yn Nwylo'r Eirth (1967)
  • Y Rebel (1969)
  • Agar (1973)
  • Y Gwylliaid (1976)

Barddoniaeth

[golygu | golygu cod]
  • Pentewynion (1949)
  • Patagonia (1965)
  • O'r Tir Pell (1972)

Dramâu

[golygu | golygu cod]

Hanes, astudiaethau a llyfrau eraill

[golygu | golygu cod]
  • Cymry Patagonia (1942)
  • Eluned Morgan: bywgraffiad a detholiad (1945)
  • Y Wladfa (1962)
  • Gwladfa Patagonia 1865-1965 (1965). Hanes y Wladfa.
  • Atgofion o Batagonia (1980).
  • Crwydro Patagonia (1960). Arweinlyfr.
  • Taith i Sbaen (1949). Llyfr taith.
  • Teithiau Tramor (1970). Llyfr taith.
  • Prydydd y Paith (1983). Hunangofiant (cyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth).

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. England & Wales, National Probate Calendar (Index of Wills and Administrations), 1858–1995. t. 10084.
  2. England & Wales, Civil Registration Death Index, 1916-2007; deaths registered in July August September 1981. t. 883.
  3. "Patagonia expert dies at 79". Liverpool Daily Post (Welsh Edition): 13. 29 Gorffennaf 1981.