Eluned Morgan (Y Wladfa)

Oddi ar Wicipedia
Eluned Morgan
Ganwyd20 Mawrth 1870 Edit this on Wikidata
Bae Bizkaia Edit this on Wikidata
Bu farw29 Rhagfyr 1938 Edit this on Wikidata
Patagonia Edit this on Wikidata
Man preswylDolgellau, Gaiman Department Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Dr Williams Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, newyddiadurwr, llyfrgellydd Edit this on Wikidata
TadLewis Jones Edit this on Wikidata

Roedd Eluned Morgan (20 Mawrth 187029 Rhagfyr 1938) yn un o lenorion amlycaf Y Wladfa ym Mhatagonia.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed hi ar fwrdd y llong Myfanwy ym Mae Biscay. Ei thad oedd Lewis Jones, ond bedyddiwyd hi â'r cyfenw "Morgan". Magwyd hi yn y Wladfa a'i haddysgu yn yr ysgol Gymraeg yno. Teithiodd i Gymru yn 1885 a threuliodd ddwy flynedd yn Ysgol Dr Williams, Dolgellau. Wedi dychwelyd i'r Wladfa, bu'n cadw ysgol breswyl i enethod yn Nhrelew am ddwy flynedd.

Yn 1885 danfonwyd hi gan ei thâd i dderbyn addysg uwchradd yn Ysgol Dr Williams, Dolgellau. Yn wahanol i'r Wladfa lle roedd addysg yn y Gymraeg, roedd addysg yng Nghymru yn gyfangwbl Saesneg a Seisnig. Bu'n rhaid i'w ffrind, Winnie Ellis, chwaer Aelod Seneddol Meirionnydd, T.E. Ellis, gyfieithu o'r Saesneg iddi yn yr ysgol. Cofiai Winnie hi yn 'cerdded fel tywysog' ac yn drawiadol gyda'i chroen a llygaid tywyll. Yn fuan wedi cychwyn yn yr ysgol fe arweiniodd Eluned orymdaith o'r disgyblion Cymraeg allan o'r adeilad mewn protest yn erbyn polisi ac agwedd Seisnig a gwrth-Gymraeg yr ysgol. Crewyd trafferth mawr a bu'n rhaid danfon am Michael D. Jones, cyfaith i dad Eluned, ddod i'r ysgol o'r Bala i ddatrys a chyfaddawdu.

Daeth yn olygydd y papur newydd Y Drafod yn 1893, ac wedi ymweliad arall â Chymru yn 1896, bu'n cyhoeddi ysgrifau yn Cymru O. M. Edwards. Sefydlodd ysgol ganolraddol Gymraeg yn y Gaiman, ac yn ddiweddarach bu'n gweithio yn Llyfrgell Caerdydd ac yn darlithio ar y Wladfa. Dychwelodd i'r Wladfa am y tro olaf yn 1918, lle bu farw yn 1938.

Llyfrau[golygu | golygu cod]

  • Dringo'r Andes (1904, ail arg. 1907, 3ydd arg. 1917)
  • Gwymon y Môr (1909)
  • Ar Dir a Môr (1913)
  • Plant yr Haul (1915, 3ydd arg. 1926)
  • Gyfaill hoff...: detholiad o lythyrau Eluned Morgan gyda rhagymadrodd a nodiadau gan W. R. P. George (Llandysul: Gwasg Gomer, 1972).
  • Tyred Drosodd: Gohebiaeth Eluned Morgan a Nantlais gyda rhagymadrodd a nodiadau gan Dafydd Ifans (Pen-y-bont ar Ogwr: Gwasg Efengylaidd Cymru, 1977).

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Dringo'r Andes & Gwymon y Môr (Honno). Argraffiad o'r ddau lyfr taith gyda rhagymadrodd.
  • R. Bryn Williams Eluned Morgan: Bywgraffiad a Detholiad (Clwb Llyfrau Cymraeg, 1948.
  • E. Wyn James, ‘Plentyn y Môr: Eluned Morgan a’i Llyfrau Taith’, Taliesin, 148 (Gwanwyn 2013), 66-81. ISSN 0049-2884.
  • E. Wyn James, ‘Eluned Morgan and the “Children of the Sun” ’, yn Los Galeses en la Patagonia VI, gol. Marcelo Gavirati & Fernando Coronato (Puerto Madryn, Chubut, Argentina: Asociación Punta Cuevas, Asociación Cultural Galesa de Puerto Madryn & Centro de Estudios Históricos y Sociales de Puerto Madryn, 2014), 249-65. ISBN 978-987-24577-5-4. Yn Saesneg a Sbaeneg.
  • E. Wyn James, ‘Eluned Morgan a Diwygiad 1905’ https://www.youtube.com/watch?v=_y-Wgq3b06U Papur mewn cynhadledd ym Mhrifysgol Caerdydd, Gorffennaf 2015.
  • Siôn T. Jobbins, 'The Phenomenon of Welshness II - is Wales too Poor to be Independent?[dolen marw]' (Gwasg Carreg Gwalch, 2013) ISBN 9781845274658 Pennawd yn y llyfr o dan y teitl, 'Eluned Morgan, Patagonia'.