Y Drafod
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | papur wythnosol ![]() |
---|---|
Golygydd | Lewis Jones, Eluned Morgan ![]() |
Rhan o | Papurau Newydd Cymreig Ar-lein ![]() |
Iaith | Cymraeg ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | 17 Ionawr 1891 ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 17 Ionawr 1891 ![]() |
Lleoliad cyhoeddi | Trelew ![]() |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus ![]() |
Sylfaenydd | Lewis Jones ![]() |
Pencadlys | Trelew ![]() |

Papur newydd Cymraeg y Wladfa, Patagonia, yw Y Drafod. Dechreuwyd y papur gan Lewis Jones yn Ionawr 1891. Ymddangosai'r papur bob pythefnos, ac roedd yn cynnwys ysgrifau ar bynciau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol, ynghyd â newyddion o'r Wladfa ei hun, o Buenos Aires ac o Gymru.
Parhaodd Lewis Jones fel golygydd hyd 1893. Yn y flwyddyn honno, daeth ei ferch Eluned Morgan yn olygydd. Bu nifer o bobl amlwg yn hanes y Wladfa yn golygu'r Drafod, yn eu plith, yn fwy diweddar, Irma Hughes de Jones.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
Dolen allanol[golygu | golygu cod]
- Dalen o'r Drafod, 8 Ionawr, 1909, o "Glaniad". Archifwyd 2015-05-19 yn y Peiriant Wayback.
- Rhifynnau o Y Drafod (rhwng 1913 a 1919) wedi'u digideiddio fel rhan o brosiect Papurau Newydd Cymru Ar-lein
- Walter Ariel Brooks, 'Welsh print culture in y Wladfa: The role of ethnic newspapers in Welsh Patagonia, 1868-1933' (Traethawd PhD Prifysgol Caerdydd, 2012) - https://orca.cf.ac.uk/46450/1/WelshPrintCultureInYWladfaWalterBrooks.pdf