Irma Hughes de Jones

Oddi ar Wicipedia
Irma Hughes de Jones
Ganwyd1918 Edit this on Wikidata
Bu farw18 Ebrill 2003 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ariannin Edit this on Wikidata
Galwedigaethgolygydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Llenor Cymraeg o'r Wladfa oedd Irma Hughes de Jones (191818 Ebrill 2003). Hi oedd golygydd Y Drafod o 1953 hyd ei marwolaeth yn 2003. Fe'i gelwir hefyd yn "Irma Ariannin" ac "Irma'r Drafod".

Ganwyd Irma Hughes de Jones yn 1918 ar fferm Erw Fair yn ardal Treorci, Dyffryn Camwy, Talaith Chubut. Ei thad oedd y golygydd Arthur Hughes. Dechreuodd Irma gyfrannu i'r Drafod yn 10 oed.[1] Yn 1946, hi oedd y ferch gyntaf i ennill y gadair yn Eisteddfod y Wladfa, ac roedd yn fuddugol chwe gwaith eto: 1949, 1970, 1971, 1977, 1983, a 1987.[2]

Bu farw ar Ddydd Gwener y Groglith, 18 Ebrill 2003.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Marw Irma - prif lenor Y Wladfa a golygydd Y Drafod", BBC Cymru'r Byd (2003). Adalwyd ar 7 Mai 2019.
  2. "Rhestrau o enillwyr", Casglu'r Cadeiriau. Adalwyd ar 7 Mai 2019.