Bae Biskaia

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Bae Biscay)
Jump to navigation Jump to search
Bae Biskaia
Golfo de Vizcaya - BM WMS 2004.jpg
Math Bae Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôl Biskaia, Gasgwyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol North Atlantic Ocean Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Sbaen Sbaen
Arwynebedd 223,000 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 45.5°N 4.3333°W Edit this on Wikidata
Llednentydd rivière d'Étel, Q511413, Q584615, Afon Gwilun, Seudre, Oria, Ter, Uhabia, Untxin, Escudo, rivière de Pont-l'Abbé, Afon Loire, Afon Bidasoa, Saja, Deva, Navia Edit this on Wikidata
Llun lloeren o Fae Biskaia

Bae mawr ger arfordir Ffrainc a Sbaen yw Bae Biskaia, hefyd Bae Vizcaya neu Bae Biscay (Sbaeneg: golfo de Vizcaya neu golfo de Gascuña, Ffrangeg: Golfe de Gascogne, Basgeg: Bizkaiko Golkoa). Cymer ei enw o dalaith Biskaia yng Nghymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg. Weithiau defnyddir Gwlff Gasgwyn amdano; mae'r Atlas Cymraeg Newydd yn dangos "Gwlff Gasgwyn" fel y rhan ddeheuol o'r bae.[1] Mae'r bae, sy'n rhan o Gefnfor yr Iwerydd, yn ymestyn o benrhyn Ajo yn Cantabria (Sbaen) hyd dde Llydaw, ac yn cynnwys arfordir Gwlad y Basg ac Aquitaine. Ei led yw tua 320 km (199 milltir).

Ceir nifer o borthladdoedd pwysig yma, yn enwedig Bilbo, Pasajes a Burdeos. Yr unig afon fawr sy'n llifo iddo yw Afon Garonne; ymhlith yr afonydd eraill mae Afon Nervión ac Afon Bidasoa, sy'n ffurfio'r ffîn rhwng Ffrainc a Sbaen.

Mae'r bae yn ddwfn ac yn tueddol i gael tywydd mawr ac felly'n gallu bod yn beryglus i longau. Mae'n bysgodfa pwysig: ymhlith y pysgod masnachol a ddelir yno ceir anchovies, cod, tiwna a sardîns.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 44.