Metamorffosis (llyfr)

Oddi ar Wicipedia
Metamorffosis
Awdur Franz Kafka
Addasiad o Die Verwandlung, 1915
Iaith Cymraeg
Genre Llyfr i ddysgwyr Cymraeg
Cyhoeddwyd Haf 2021
Cyhoeddwyr Iawn.Cymru
ISBN 978-1-5272-8579-8
(E-lyfr: 978-1-5272-9128-7)
Fformatiau Llyfr: clawr-feddal
E-lyfr: epub

Mae’r llyfr Metamorffosis yn addasiad o Die Verwandlung gan yr awdur Franz Kafka. Mae'r testun wedi'i gyfieithu ac addasu ar gyfer dysgwyr Cymraeg. Fe'i gyhoeddwyd gan Iawn.Cymru.

Y gwaith a’r awdur[golygu | golygu cod]

Ysgrifennwyd y gwreiddiol yn Almaeneg ac fe’i cyhoeddwyd yn gyntaf yn 1915 mewn cylchgrawn llenyddol misol.

Mae'r stori'n adrodd hanes Gregor Samsa sydd yn deffro un bore i ddarganfod ei fod wedi'i newid i mewn i rhyw fath o bryf ffiaidd. Nid yw'r rheswm dros y newid byth yn cael ei egluro. Wrth geisio deall beth sydd wedi digwydd iddo mae Gregor yn disgrifio ymateb ei deulu a sut mae ei gyflwr newydd yn codi arswyd arnyn nhw. Mae’r gwaith wedi profocio dehongliadau di-ri. [1]

Daeth waith Kafka yn hynod o ddylanwadol yn ystod ail hanner yr 20 ganrif gan ysbrydoli nifer fawr o ysgrifenwyr, beirdd ac artistiad cerddorol.

Cyfieithiadau[golygu | golygu cod]

Mae’r Metamorffosis yn un o weithiau enwocaf Kafka ac wedi'i gyfieithu i nifer fawr o ieithoedd y byd.

Mae’n bosib gyfieithu teitl y llyfr Die Verwandlung fel 'Y Cyfnewid' neu 'Y Metamorffosis'.

Cyfieithwyd y fersiwn iaith Sbaeneg yn gyntaf gan yr awdur enwog Jorge Luis Borges yn 1935. [2]

Mae brawddeg agoriadol y bennod gyntaf yn yr Almaeneg wreiddiol, a sut i gyfieithu i beth mae Gregor bellach wedi newid iddo, wedi cael eu hastudio a'u trafod ledled y byd. Mae llawer o gyfieithiadau yn dweud fod Gregor wedi'i gyfnewid i bryf. Ond yn y fesiwn gwreiddiol mae'r geiriau Almaeneg ungeheures Ungeziefer yn awgrymu ei fod yn 'fermin anferthol' neu 'ysglyfaeth enfawr'.

Fersiwn i ddysgwyr Cymraeg[golygu | golygu cod]

Mae'r addasiad Cymraeg 2021 wedi'i anelu at ddysgwyr Cymraeg lefel ganolradd ac yn defnyddio geirfa a ffurfiau gramadegol wedi'u symleiddio. Mae pob tudalen y llyfr yn cynnwys help i'r dysgwyr deall y geiriau a berfau.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. https://bookanalysis.com/franz-kafka/the-metamorphosis/
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-03-06. Cyrchwyd 2021-03-17.