Iawn.Cymru
Gwedd
| Enghraifft o: | cyhoeddwr |
|---|---|
| Rhan o | y fasnach lyfrau yng Nghymru |
| Dechrau/Sefydlu | 2020 |
| Gwefan | https://www.iawn.cymru/ |
| Dynodwyr | |
Mae iawn.cymru yn brosiect cyhoeddi nid er elw wedi'i sefydlu yn bennaf yn ardal Bangor yn 2020.
Mae cefnogwyr gwirfoddol y prosiect yn cynnwys tiwtoriaid iaith Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth Prifysgol Bangor, dylunydd graffig, pobl sydd wedi dysgu Cymraeg yn rhugl (yn cynnwys cyn enillydd y wobr Dysgwr y flwyddyn) a dysgwyr Cymraeg presennol.
Bwriad y fenter yw cyhoeddi llyfrau a deunydd creadigol amrywiol i ddysgwyr Cymraeg. Y llyfr cyntaf yn y gyfres bydd cyfieithiad o stori fer Metamorffosis gan Franz Kafka gyda geirfa a phatrymau berfau wedi'u symleiddio.