Ronan Huon

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Mae Ronan Huon (3 Awst 192218 Hydref 2003) oedd awdur, cyhoeddwr, ymgyrchydd ac athro Llydaweg.

Fe anwyd Ronan Huon, a elwir hefyd yn René Huon, ar 3 Awst 1922 yn Saint-Omer. Roedd yn awdur, ymgyrchydd a golygydd iaith Llydaweg. Sefydlwyd ef Kamp Etrekeltiek ar Vrezhonegerien, KEAV, i ddysgu'r iaith i gannoedd o oedolion. Bu'n gyfarwyddwr a phrif olygydd y cylchgrawn dylanwadol Al Liamm am dros hanner can mlynedd. Mae Huon wedi cael ei gydnabod am ei gyfraniad i'r iaith Llydaweg a'i llenyddiaeth.

Roedd rhieni Huon o Orllewin Llydaw, o Trégor a threuliodd ei hafau gyda'i taid a nain a oedd yn “Brezhonegerien”. Symudwyd y teulu yn øl i Lydaw pan oedd yn dwy flwydd oed. Dechreuodd ddysgu Llydaweg ffurfiol (Brezhoneg) pan oedd yn 17 oed. Addysgwyd ef yn Lannuon ac ym Mhrifysgol Roazhon, (Rennes) lle enillodd radd mewn Saesneg a Diploma Astudiaethau Celtaidd, ar ôl blwyddyn fel cyw-athro yn Abertawe, gwellheuodd ei grap ar y gymraeg. Dychwelodd o Gymru yn 1949, ac roedd yn athro Saesneg o fri yn Brest, lle arhosodd tan ddiwedd ei oes. Roedd wedi dysgu elfennau'r Gymraeg ac edmygu'r system addysgol a oedd yn caniatáu dysgu Cymraeg, yn wahanol i'r system uniaith ganolog yn Ffrainc.


Awdur a golygydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1945, wedi’r ‘’Liberation’’, ynghyd â Pol Le Gourrierec, sefydlodd y cylchgrawn, Tir na nÓg. Parhaodd hyn â thraddodiadau y cylchrawn Llenyddol Gwalarn, a lansiwyd gan Roparz Hemon yn 1925, a gaewyd ym 1944.  Yn 1948, cyd-sefydlodd y cylchgrawn, Al Liamm (Y Cwlwm); unodd y cylchgronau hyn yn 1949 dan yr un enw Al Liamm. Cyfarwyddodd a golygodd yr cylchgrawn hwn am tua hanner canrif , heb nawdd cyhoeddus. Hefyd cyfarwyddodd cwmni Al Liamm, y cyhoeddwr llyfrau Llydewig mwyaf. Chwareuodd cylchgrawn Al Liamm a'r tua 200 o deitlau llyfrau rôl canolog i’r iaith wedi’r rhyfel. Yn ôl Meic Stephens “ gan o bosibl arbed Llydaweg rhag diflannu”. Maent yn cynrychioli'r gweithgaredd cyhoeddi mwyaf parhaol yn Llydaweg ers 1945, gan ysgogi llawer o gyfnodolion newydd ers y 1960au. Rhwng 1985 a 1997, bu Huon yn Llywydd y “Gymdeithas des Editeurs de Bretagne”, ac yn gweithio gydag awduron newydd i gynyddu argaeledd llyfrau yn Llydaweg. Yn 2000, unwyd cyhoeddwyr Al Liamm gan An Here. Cwblhaodd a diweddarodd Huon eiriadur Roparz Hemon o Lydaweg-Ffrangeg a Ffrangeg-Llydaweg, llyfr a werthodd dros 100,000 o gopïau. Fel awdur, cyhoeddwyd gasgliad o gerddi: “Evidon Va-Unan” (I fi fy Hun), a dau gasgliad o straeon byrion: “An Irin Glas” (Yr Eirin Chwerw) ac “Ur Vouezh Er Vorenn” (Llais yn y Niwl). Cyfieithodd hefyd o'r Gymraeg, yn enwedig straeon byrion Kate Roberts, ac o’r Saesneg. Ysgrifennodd neu gyfranodd fel golygydd at lyfrau dysgu a gramadegau Llydaweg, a Blodeugerdd ysgrifennu diweddar yn Llydaweg, yn 1984. Yn 1992, derbyniodd wobr Urzh an Erminig (Ordre de l'Hermine) am lafur ei fywyd. Roedd Huon yn briod ag Elen Ar Meliner; roedd ganddynt bedwar mab, daeth Tudual Huon, cymerodd ei le efo cylchgrawn Al Liamm wedi ei farwolaeth. Bu farw yn Brest.


Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Evidon Va-Unan (I Fi fy Hun), a gyhoeddwyd gan Al Liamm, Brest, 1955 a 1976 (cerddi) • An Irin Glas (Yr Eirin Tagu) “Sloes”, a gyhoeddwyd gan Al Liamm, Brest, 1966 a 1971 (straeon byrion) • Ur Vouezh Er Vorenn (Llais yn y Niwl), a gyhoeddwyd gan Al Liamm, Brest, 1980 (straeon byrion)


Llyfryddiaeth cyfieithiadau i’r Gymraeg[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Storiau o’r Llydaweg; Storiau Tramor VIII gol Rita Williams’. Gomer 1979.

Diwrnod Gwlyb; Diwedd y Dydd; Gwraig Fach Fitw ; Cân i Lawenydd, yn cynnwys pedair stori gan Ronan Huon, cyfieithwyd y pedair gan Rita Williams

  • Prynhawnddydd (Abardaez), stori gan Ronan Huon, cyfieithwyd gan Rita Williams, Taliesin 121 (Gwanwyn 2004)
  • Pen ar Bed (Pen Draw'r Byd), stori gan Ronan Huon, cyfieithwyd gan Rita Williams, Taliesin 124 (Gwanwyn 2005)
  • Tair stori fer o Lydaweg Ronan Huon. Y Traethodydd Cyf. CXXXIX 1984


Detholiad Dwyieithog o’i waith[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Salud deoc’h Marmouz Kozh stori fer gan Ronan Huon yn Danevelloù divyezhek / Nouvelles bilingues (casgliad), 2006. Al Liamm, Lannuon.
  • Ar Gwenilli Mor (1959), stori fer gan Ronan Huon (yn An Irin Glas casglaid 1966 Al Liamm Llannuon) ynglyn a fersiwn saesneg/llydaweg yn Turn of the Ermine Jaqueline Gibson a Gwyn Griffiths. Frances Bootle , London 2006.


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]