Al Liamm
Cyfnodolyn llenyddol a diwylliannol Llydaweg a gyhoeddir bob dau fis yw Al Liamm ("Y Ddolen"). Mae hefyd yn gwmni cyhoeddi pwysig yn y Llydaweg. Mae'r cyfnodolyn wedi chwarae rhan bwysig ym mywyd diwylliannol Llydaw am dros hanner canrif ac yn uchel ei barch gan y Llydawyr. Mae wedi ymddangos yn ddifwlch ers ei greu, gan gyrraedd ei 357fed rifyn yn Ebrill 2008.
Hanes
[golygu | golygu cod]Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf ym Mharis gan Pêr ar Bihan ac Andrev Latimier. Yn ystod ei flynyddoedd cynnar, unodd â ddau gyfnodolyn arall, sef Kened ac yna Tír na nÓg yn 1948, pan gymerodd Ronan Huon, cyfarwyddwr Tír na nÓg, drosodd. Arosodd fel prif olygydd hyd at ei farwolaeth yn 2003. Ar hyn o bryd mae Al Liamm yn cael ei redeg gan ei fab, Tudual Huon.
Mae Maodez Glanndour, Roparz Hemon, Ronan Huon, Pêr Denez, Pêr Diolier, Youenn Gwernig, Reun ar C'halan, Fañch Kerrain, Yann Gerven, a rhai cannoedd o lenorion eraill wedi cyfrannu cerddi, straeon, cyfieithiadau, erthyglau o bob math ac adolygiadau.
Rhai cyfranwyr
[golygu | golygu cod]- Abeozen, Abherve-Gwegen,
- Ernest ar Barzhig, Vefa de Bellaing, Maryvonne Berthou, Herve Bihan, Per ar Bihan, Loeiz Bihanig, Alan Botrel, Jil Boucherit,
- Reun ar C'hallan, Gwenn-Ael ar C'helleg,
- Per Denez, Ivetig an Dred-Kervella, Youenn Drezen, Anjela Duval,
- Arzel Even, Erwan Evenou, Guy Étienne,
- Francis Favereau,
- Roger Gargadennec, Yann Gerven, Maodez Glanndour, Herve Gouedard, Yeun Ar Gow,
- Roparz Hemon, Alan Heusaff, Herve Huon, Ronan Huon, Tudual Huon,
- Yann-Eozen Jarl, Théophile Jeusset,
- Tudual Kalvez, Herri Kaouissin, Reun Menez Keldreg,
- Fañch Kerrain, Herve Kerrain, Mark Kerrain, Yann Kerlann, Annaig Kervella, Frañsez Kervella, Goulc'han Kervella, Riwanon Kervella, Jakez Konan,
- Xavier de Langlais, André Latimier, Herve Latimier, Alan Louarn,
- Ivona Martin, Martial Ménard, Gwennole ar Menn,
- Youenn Olier, Filip Oillo
- Goulven Pennaod, Yann-Ber Piriou,Jarl Priel,
- Fant Rozeg,
- Dan Ar Wern,
- Bernez Tangi, Lan Tangi.
Cyhoeddwyr
[golygu | golygu cod]Yn ogystal â'r cylchgrawn, mae sawl cyhoeddiad Llydaweg yn cael ei gyhoeddi gan wasg Al Liamm.
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- (Llydaweg) Al Liamm[dolen farw] Gwefan y cylchgrawn a'r wasg.