John Elwyn Jones

Oddi ar Wicipedia
John Elwyn Jones
Ganwyd1921 Edit this on Wikidata
Dolgellau Edit this on Wikidata
Bu farw25 Medi 2008 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyfieithydd Edit this on Wikidata

Cyfieithydd o'r Almaeneg, Pwyleg a'r Ffrangeg i'r Gymraeg oedd John Elwyn Jones (192125 Medi 2008). Yn frodor o ardal Dolgellau, magwyd ef ym Mryn Mawr.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ymunodd â’r Gwarchodlu Cymreig dechrau'r ail ryfel byd ond cymerwyd ef yn garcharor rhyfel ger Boulogne ym 1940. Wedi iddo ddianc, ymunodd â Fyddin Gel y Pwyliaid cyn dychwelyd drwy Sweden yn ôl i Brydain. Anrhydeddwyd ef â Distinguished Conduct Medal am ei waith. Wedi'r rhyfel bu'n athro yn Ysgol Dr Williams, Dolgellau. Daeth yn rhugl yn Ffrangeg, Almaeneg, Rwsieg a Phwyleg, mae e wedi cyfieithu tua dwsin o gyfrolau o’r ieithoedd hynny i’r Gymraeg. Yn ogystal â Pum Cynnig i Gymro a 'hunangofiant' a ymddangosodd ym 1971, cyhoeddodd dair cyfrol o hunangofiant o dan y teitl Yn fy Ffordd fy Hun.

Bu farw ar 25 Medi 2008 yn 87 oed. Roedd ei angladd yng Nghapel yr Annibynwyr, Brithdir ar 2 Hydref 2008 dan ofal y Parch. Iwan Llywelyn Jones.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfieithiadau
Gwaith gwreiddiol
  • Pysgotwyr Llydaw : (nofel gan Pierre Loti). 1985
  • Pum Cynnig I Gymro, Llyfrau'r Faner, 1971,
  • Pum Cynnig I Gymro, Gwasg Carreg Gwalch, 1987. ISBN 0863810799
  • Yn Fy Ffordd Fy Hun: Hunangofiant Dyn Byrbwyll. Gwasg Carreg Gwalch, 1986. ISBN 0863810543
  • At the Fifth Attempt Pen & Sword Books Limited, ISBN 0850523613

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]