Siôn Eirian

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Siôn Eirian
Ganwyd Siôn Eirian Davies Edit this on Wikidata
Mawrth 1954 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Dramodydd, Ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Tad Eirian Davies Edit this on Wikidata
Mam Jennie Eirian Davies Edit this on Wikidata

Mae Siôn Eirian Davies (ganed Mawrth 1954) yn awdur a dramodydd sy'n ysgrifennu yn y Gymraeg a'r Saesneg. Adnebir ef fel Siôn Eirian.

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Siôn yn Hirwaun yn fab i Eirian Davies a Jennie Eirian. Roedd ei dad yn weinidog a symudodd y teulu i Frynaman yn fuan wedi ei eni. Felly fe'i magwyd ym Mrynaman a'i addysgu yn Ysgol Gynradd Brynaman. Roedd ei fam yn newyddiadurwraig awdur, ymgeisydd gwleidyddol a golygydd cylchgrawn wythnosol Y Faner 1979-82.[1] Ganwyd ei frawd, Guto Davies yn 1958. Symudodd y teulu eto i'r Wyddgrug yn 1962 a mynychodd Ysgol Glanrafon ac Ysgol Maes Garmon. Graddiodd mewn Cymraeg ac Athroniaeth o Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth ym 1975. [2]

Gwaith[golygu | golygu cod y dudalen]

Teledu a Ffilm[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae wedi ysgrifennu dramâu ffilm megis Gadael Lenin (1993) ac yn Saesneg Yr Heliwr/A Mind to Kill a Lifeboat, ill dau yn 1994.[3]

Ysgrifenodd y gyfres gomedi Mostyn Fflint 'n aye! yn 2014, ar gyfer y cymeriad o'r Wyddgrug a grëwyd a pherfformiwyd gan ei gyfoeswr o'r un ysgol Cadfan Roberts. [4]

Dramâu Llwyfan[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Siôn Eirian wedi ysgrifennu ac addasu nifer o ddrama yn y Gymraeg a'r Saesneg.[5]

  • Yfory - 2018, Cwmni Theatr Bara Caws.[6][7]
  • Woman of Flowers - 2018, Cwmni Theatr Pena a Canolfan Gelfyddydau Taliesin. Addasiad o ddrama Blodeuwedd gan Saunders Lewis.[8] Roedd y ddrama yn gyd-gynhyrchiad rhwng Theatr Pena a Taliesin Arts Centre.
  • Hedfan Drwy’r Machlud - 2006, gan Gwmni Drama Coleg Frenhinol Cerdd a Drama Cymru
  • Epa yn y Parlwr Cefn - 2004 gan Gwmni Theatr 3D[9]
  • Nia Ben Aur - 2003 gan Theatr na n'Og
  • Paradwys Waed - 2000 gan Theatr Bara Caws
  • Epa yn y Parlwr Cefn - 1994 gan Cwmni Theatr Dalier Sylw
  • Blodeuwedd - 1992 gan Gwmni Theatr y Sherman
  • Woman of Flowers - 1991 gan Actors Touring Company
  • Dracula - 1991 gan Sherman Theatre Company
  • Crash Course - 1982, cwmni Made in Wales

Eisteddfod[golygu | golygu cod y dudalen]

Enillodd Siôn Eirian yn y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 1978 am ei ddilyniant o gerddi dan y llysenw, 'Aman Bach'. Yn ddim ond 24 oed, ef oedd enillydd ieuengaf y Gadair erioed.[10][11] Roedd ei gerdd fuddugol yn darlunio llencyndod.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae wedi cyhoeddi sawl llyfr sy'n gyhoeddiad print o ddrama, addasiadau o nofelau neu chyfieithiadau.[12]

  • Dros Bont Brooklyn : Cyfieithiad Sion Eirian O Ddrama Arthur Miller a View from the Bridge, 2003 [13] ISBN-10: 0954561309
  • Cysgod y Cryman - Addasiad Llwyfan - 2007 Gwasg Gomer [14] ISBN: 9781843238225 (1843238225)
  • Arolygydd y Llywodraeth - 2006, cyfieithaiad o 'The Government Inspector' gan Nikolai Gogol [15] Cyhoeddwr oleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ISBN: 9780954561314 (0954561317)
  • Cegin y Diafol[16] - 2011, drama Gwasg Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ISBN: 9781856446303 (1856446301)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]