Yr Wyddgrug

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Wyddgrug)
Jump to navigation Jump to search
Yr Wyddgrug
Stryd Fawr yr Wyddgrug 2.JPG
Y stryd fawr a'r eglwys
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir y Fflint Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.166°N 3.133°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000197, W04000995 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ237640 Edit this on Wikidata
Cod postCH7 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auHannah Blythyn (Llafur)
AS/auRob Roberts (Ceidwadwyr)

Tref yn Sir y Fflint yng ngogledd-ddwyrain Cymru yw'r Wyddgrug. Mae hi'n gorwedd ar groesffordd hanner ffordd rhwng Rhuthun i'r gorllewin a Chaer i'r dwyrain. Mae'r A494 yn pasio'r dref i'r dwyrain. Tu ôl i'r Wyddgrug mae'r tir yn codi i lethrau coediog Bryniau Clwyd. Cynhelir marchnad lwyddiannus ynghanol y dref bob dydd Mercher, ac mae'r Stryd Fawr yn ffynnu. Mae llwyfan awyr-agored ynghanol y dref, a chynhelir digwyddiadau cerddorol o dro i dro. Cynhelir twmpathau yn neuadd yr eglwys pedair gwaith bob blwyddyn. Ystyr enw y dref yw "bryncyn neu dwmpath uchel" (yr un ystyr ag enw Saesneg y dref, Mold: o'r Ffrangeg Normanaidd Monthault sy'n golygu "bryn uchel"). Yn ôl yr Athro Hywel Wyn Owen, mae'n debycach mai'r un 'gŵydd' yw hwn ac 'yn eich gŵydd' hy 'golwg' ac mai ystyr Yr Wyddgrug felly yw 'Bryn Amlwg'.[1]

Yr Wyddgrug o gyfeiriad Bryniau Clwyd.
Ffordd Caer, Yr Wyddgrug.
Goleuadau'r Nadolig yn y dref

Cynrychiolir yr Wyddgrug yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Rob Roberts (Ceidwadwyr).[2][3]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl traddodiad, ymladdwyd Brwydr Maes Garmon ar lecyn tua milltir i'r gorllewin o'r dref bresennol yn OC 430. Enillodd y Cymry y dydd, dan arweiniad Sant Garmon, yn erbyn eu gelynion paganaidd.

Cynhelid llys ar gylch Llywelyn ap Gruffudd yn y Wyddgrug ar 22 Gorffennaf, 1273. Roedd gan y Wyddgrug ei gastell yn yr Oesoedd Canol a nodir ei safle gan Fryn y Beili, sy'n ardd gyhoeddus bellach. Ym 1245, cafodd ei gipio gan Dafydd ap Llywelyn.

Addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir dwy ysgol uwchradd yn Yr Wyddgrug, Ysgol Alun (Saesneg ei hiaith) ac Ysgol Maes Garmon (Cymraeg ei hiaith).

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Yr Wyddgrug (pob oed) (10,058)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Yr Wyddgrug) (2,051)
  
21.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Yr Wyddgrug) (6055)
  
60.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Yr Wyddgrug) (1,654)
  
38.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Eisteddfod Genedlaethol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn yr Wyddgrug ym 1923, 1991 a 2007. Am wybodaeth bellach gweler:

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Dictionary of the Place-Names of Wales; gol: Hywel Wyn Owen a Richard Morgan; Gwasg Gomer (2007); tud 326
  2. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: