Richard Wilson (arlunydd)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Richard Wilson
Mengs - Richard Wilson.jpg
Ganwyd 1 Awst 1713 Edit this on Wikidata
Penegoes Edit this on Wikidata
Bu farw 11 Mai 1782 Edit this on Wikidata (68 oed)
Colomendy Edit this on Wikidata
Gwaith Arlunydd edit this on wikidata
Gwaith nodedig Llyn-y-Cau, Cader Idris Edit this on Wikidata
Aelod o Academi Frenhinol y Celfyddydau Edit this on Wikidata

Arlunydd o Gymro oedd Richard Wilson (1 Awst, 1714 - 15 Mai, 1782).

Cafodd ei eni yn rheithordy Penegoes, ger Machynlleth yn Sir Drefaldwyn. Roedd ei dad John Wilson yn rheithior yno ac wedi bod ym Mhrifysgol Rhydychen ac ef oedd yn ei ddysgu mae'n debyg. Roedd ei fam, Alice Wynne yn perthyn i nifer o deuluoedd bonheddig a chefnog yng Nghymru.

Aeth i Lundain yn llanc 16 oed at arlunydd o'r enw Thomas Wright i ddysgu sut i beintio portreadau dan nawdd Syr George Wynne, perchennog mwynglawdd ac yn perthyn i'w fam. Ymhen 6 blynedd sefydlodd ei fusnes ei hun yn peintio portreadau. Ar ôl ymweliad â'r Eidal (1749-1756), canolbwyntiodd ar dirluniau. Roedd yn arloeswr a fabwysiadodd arddull rhydd telynegol yn lle Clasuriaeth, gan baratoi'r ffordd i artistiaid diweddarach fel Gainsborough a Constable. Fe fu farw yng Ngholomendy, Sir Ddinbych.

Prif beintiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Castell Caernarfon
  • Castell Dolbadarn
  • Afon Penegoes
  • Pont Dolgellau
  • Glyn Mawddach gyda Cader Idris
  • Castell Cilgerran
  • Castell Ddinas Bran

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Richard Wilson (1713-1782) yn y Bywgraffiadur Cymreig


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.