John Blackwell (Alun)
John Blackwell | |
---|---|
Ffugenw | Alun |
Ganwyd | 1797 Yr Wyddgrug |
Bu farw | 19 Mai 1840 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd |
Bardd ac offeiriad o Gymru oedd John Blackwell (tua diwedd 1797 – 19 Mai 1840)[1]. Ei enw barddol oedd Alun.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Cafodd ei eni ym Mhonterwyl, ger Yr Wyddgrug yn Sir y Fflint. Roedd ei fam o Langwm a mwynwr oedd ei dad[angen ffynhonnell]. Crydd oedd o wrth ei alwedigaeth. Daeth i sylw yn dilyn ei awdl Maes Garmon yn Eisteddfod Yr Wyddgrug ym 1823 ac enillodd ei awdl Genedigaeth Iorwerth II yn Eisteddfod Rhuthun y flwyddyn ddilynol. Ym 1824 aeth i Feriw lle dysgodd Ladin a Groeg gan y ficer, y Parch Thomas Richards. Ym 1825 cafodd ysgoloriaeth i fynd i Goleg yr Iesu, Rhydychen trwy garedigrwydd bnoheddwyr a chlerigwyr a edmygai ei waith. Graddiodd ym 1828 a chafodd ei ordeinio ym 1829 i guradiaeth Treffynnon lle y bu am bedair blynedd. Yn 1833 rhoddodd Arglwydd Broughham iddo fywoliaeth Manordeifi yng ngogledd Sir Benfro fel rheithior y plwyf, a bu'n byw yno am weddill ei oes. Yn 1839 priododd Matilda Dear o Bistyll, ger Treffynnon[1]. Bu farw yn 19 Mai 1841 yn 42 oed a chladdwyd ef ym mynwent Maenor Deifi. Cyhoeddwyd ei waith yn 1851.[2]
Gwaith llenyddol
[golygu | golygu cod]Canai Alun ar y mesurau caeth, ond gwelir ei ddawn ar ei gorau yn ei cerddi rhydd telynegol. Enillodd yn yr eisteddfodau ond ni chyhoeddwyd ei waith tan ar ôl iddo farw, yn y gyfrol Ceinion Alun (1851), a olygwyd gan Gutyn Padarn. Ymhlith ei gerddi mwyaf adnabyddus mae 'Abaty Tyndyrn', 'Cân Doli' a 'Gwraig y Pysgotwr'. Y gerdd a wnaeth ei enw fodd bynnag oedd ei farwnad i'r Esgob Heber, a wobrwyd yn Eisteddfod Dinbych yn 1828.
Ysgrifennodd nifer o lythyrau yn ogystal, yn Gymraeg a Saesneg, a nodweddir gan arddull cain a diwylliedig. Cyfrannodd nifer o erthyglau i'r cylchgronau Cymreig hefyd, a threuliodd gyfnod fel olygydd Y Cylchgrawn (Llanymddyfri).
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- John Blackwell: Ceinion Alun, gol. Gutyn Padarn (Isaac Clarke, Rhuthun, 1851). Cyfrol sy'n cynnwys cofiant diddorol hanner can tudalen
Cyhoeddwyd detholiad o'i gerddi wedi'u golygu gan Owen M. Edwards yng Nghyfres y Fil (1909).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Y Bywgraffiadur Ar-Lein; adalwyd 04/01/2013.
- ↑ Gwaith Alun. Golygydd Owen M Edwards. Cyfres y Fil 1909.