Rheinallt ap Gruffudd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Uchelwr o'r Wyddgrug, Sir y Fflint oedd Rheinallt ap Gruffudd ap Bleddyn (tua 1438 - 1465/6).[1] Mae'n adnabyddus am amddiffyn y Cymry yn erbyn Saeson dinas Caer ac am grogi maer y ddinas honno ar ôl iddo ymosod ar yr Wyddgrug.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Perchennog Y Tŵr yn y Wyddgrug oedd Rheinallt. Roedd yn uchelwr lleol ac yn filwr. Cymerodd ran yr Lancastriaid yn Rhyfeloedd y Rhosynnau. Yn 1461 fe'i cofnodir mewn dogfen Seisnig fel un o garsiwn Cymreig Castell Harlech, cadarnle'r Lancastriaid yng ngogledd Cymru.[2]

Yn ôl traddodiad, crogodd faer Caer ar ystwffl tu allan i'r Tŵr yn 1464 ar ôl curo gwŷr Caer mewn sgarmes wedi iddynt ymosod ar y Wyddgrug.[1] Roedd hynny ar ôl i Reinallt ac eraill, oedd yn dal yng Nhastell Harlech ar y pryd, gael eu cyhuddo o gefnogi terfysg yng ngogledd Cymru yn enw'r Lancastriaid mewn bil a basiwyd gan Senedd Lloegr. Rhoddwyd proclamasiwn brenhinol allan i gael ei ddarllen yn gyhoeddus gan faer Caer yn bygwth y gosb eithaf i Reinallt ac amddiffynwyr eraill Harlech os nad oeddent yn ildio erbyn Ionawr 1 1465.[2] Er nad oes cofnod, ymddengys fod Rheinallt wedi gadael Harlech a dychwelyd i'r Wyddgrug i amddiffyn ei bobl a'i eiddo yn erbyn maer Caer a oedd wedi derbyn y proclamasiwn fel esgus i ymosod ar y Cymry lleol, eu lladd a dwyn eu heiddo; dyna a arweiniodd at y sgarmes yn y Wyddgrug a chrogi'r maer.

Cedwir cerddi mawl i Reinallt ap Gruffudd gan rai o feirdd y cyfnod, yn cynnwys dau gywydd mawl gan Hywel Cilan[3] a cherddi mawl eraill gan Gutun Owain a Tudur Penllyn.[4] Canodd mab Tudur, Ieuan ap Tudur Penllyn, farwnad iddo.[4]

Cof[golygu | golygu cod y dudalen]

Ysgrifenodd Isaac Foulkes ('Llyfrbryf') nofel hanesyddol ramantus am Reinallt a gyhoeddwyd yn 1874, sef Rheinallt ap Gruffudd.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.
  2. 2.0 2.1 H. T. Evans, Wales and the Wars of the Roses (1915; arg. newydd 1998), tud. 87.
  3. Islwyn Jones (gol.), Gwaith Hywel Cilan (Caerdydd, 1963).
  4. 4.0 4.1 Thomas Roberts (gol.), Gwaith Tudur Penllyn ac Ieuan ap Tudur Penllyn (Caerdydd, 1958).