Cedric Maby

Oddi ar Wicipedia
Cedric Maby
Ganwyd20 g Edit this on Wikidata
Swydd Gaerloyw Edit this on Wikidata
Bu farw2000 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethdiplomydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Roedd Alfred Cedric Maby (bu farw 2000) yn ddiplomydd, awdur ac ieithydd.

Fe'i ganed yn Sir Gaerloyw i rieni o Sir Fynwy: roedd ei dad o Benrhos, ger Rhaglan, a’i fam o’r Fenni. Aeth i Brifysgol Rhydychen yn 1938 lle astudiodd y Clasuron, Ffrangeg ac Athroniaeth. Wedyn cafodd yrfa yn y Gwasanaeth Diplomyddol am 30 mlynedd. Roedd yn Tsieina yn 1939 am gyfnod ac eto yn y 1950au. Roedd yn rhugl ei Tsienieg ac yn siarad Swedeg; roedd ei wraig Anne Charlotte o Stockholm. Gallai hefyd siarad Almaeneg a Sbaeneg.

Roedd yn bennaeth Adran yn y Weinyddiaeth o'r enw 'Datblygiadau Tramor' yn y 1960au. Penodwyd ef i nifer o swyddi gan gynnwys pan ddaeth yn CYB/CBE (Cadlywydd yr Ymerodraeth Brydeinig) yn Efrog Newydd yn 1962 ac yn Gonswl ei Mawrhydi i Liechtenstein a’r Swistir yn 1968.

Ymddeolodd yn 1971 a dychwelodd i “Cae Canol” (a brynodd oddi wrth ystad Sir Clough Williams-Ellis) Penrhyndeudraeth. Roedd yn aelod o’r Cymmrodorion a Chymdeithas yr Iaith

Apwyntwyd ef yn  Uchel Siryf Gwynedd 1976 -1977. Yn 1983 cyhoeddodd Dail Melyn o Tseina, yn adrodd hanes Tsiena modern. Cyhoeddwyd cyfrol o gerddi Tsieineeg Y Cocatŵ Coch gan Gwasg Prifysgol Cymru yn 1987; casgliad o gerddi yn ymestyn dros dwy fil a hanner o flynyddoedd. Bu farw yn 2000. Daeth casglaid diddorol o “Chinoiserie” ganddo i’r farchnad yn Christies Mai 2015.

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

  • Venezuela. Economic and commercial conditions in Venezuela ... Chwefror, 1951. Cyhoeddwyd gan Alfred Cedric Maby
  • Dail Melyn o Tseina (hanes) gan Cedric Maby. Gwasg Gee, Dinbych 1983
  • Y Cocatŵ Coch (blodeugerdd 500cc-1981) cyfieithwyd gan Cedric Maby, Yr Academi Gymreig, GPC 1987

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]