Gwasg Gregynog

Oddi ar Wicipedia
Gwasg Gregynog
Cregynog - cartref y wasg
Enghraifft o'r canlynolgwasg breifat, cyhoeddwr Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1922 Edit this on Wikidata
Lleoliady Drenewydd Edit this on Wikidata
Lleoliad yr archifLlyfrgell Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Pencadlysy Drenewydd Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.gwasg-gregynog.co.uk/ Edit this on Wikidata

Gwasg breifat Gymreig yw Gwasg Gregynog, a sefydlwyd dan yr enw The Gregynog Press yn wreiddiol yn 1923 gan y chwiorydd a'r casglwyr celf Gwendoline a Margaret Davies o'r Drenewydd ym Mhowys. Enwir y wasg ar ôl plasdy Gregynog, ger Tregynon, cartref y chwiorydd.

Roedd ac y mae'r wasg yn cynhyrchu llyfrau cain - yn aml mewn argraffiadau cyfyngedig - wedi eu gosod a'u rhwymo â llaw. Mae'r llyfrau yn boblogaidd gan gasglwyr llyfrau cain ac yn denu prisiau uchel.

Hanes cychwynnol[golygu | golygu cod]

Sefydlu’r Gregynog Press oedd un o’r syniadau cyntaf a oedd gan y chwiorydd Davies, ac fe’i gwireddwd yn 1922 wedi iddynt brynu Gregynog. Adeg Nadolig 1922 yr argraffwyd y deunydd cyntaf yno, sef 120 o gardiau Nadolig. Bwriad y wasg yn y cyfnod hwn oedd cyhoeddi gweithiau Cymraeg wedi’u cyfieithu, ailbrintio gweithiau Saesneg gan lenorion Cymreig, ac argraffu gweithiau Cymraeg cywrain.

Bu sawl crefftwr ac artist talentog iawn yn gweithio i’r wasg, gan gynnwys Robert Maynard, Blair Hughes-Stanton, a Loyd Haberley. Cyhoeddwyd cyfres o argraffiadau cyfyngedig o ansawdd uchel, a gâi eu hystyried yn werthfawr iawn i’r prynwyr er nad oedd y busnes fel y cyfryw yn llwyddiant ariannol. Fodd bynnag, nid dyna oedd bwriad y chwiorydd a barhâi i noddi’r wasg a thalu am gynhyrchu llyfrau cain. Effeithiodd yr Ail Ryfel Byd yn fawr ar y wasg, ac wedi i Gwendoline ‒ a fu’n arwain y fenter ‒ farw yn 1951 daeth cyfnod y wasg i ben am y tro.[1]

Gwasg Gregynog a Gwasg Prifysgol Cymru[golygu | golygu cod]

Pan roddwyd Gregynog i Brifysgol Cymru yn 1974, nid oedd y wasg yn cynhyrchu llyfrau ers blynyddoedd maith. Ymddatododd y busnes yn wirfoddol yn 1965 ac fe’i prynwyd gan y Brifysgol. Fe’i hailenwyd yn Wasg Gregynog yn hytrach na The Gregynog Press, ac wedi buddsoddi mewn adroddiad ar gyflwr y wasg a’i hoffer yn 1971, aethpwyd ati yn 1974 i’w hailsefydlu. Mae hi‘n dal i fod yn wasg weithredol hyd heddiw. Yn y blynyddoedd diwethaf cyhoeddwyd gweithau Ann Griffiths, Canu Heledd, cerddi R.S. Thomas, emynau Morgan John Rhys a llawer un arall. Y nofelydd Mary Oldham yw llyfrgellydd Gregynog.

Cofrestrwyd y wasg yn elusen yn 2002.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Hughes, Glyn Tegai; Morgan, Prys; Thomas, J. Gareth (1977). Gregynog. Gwasg Prifysgol Cymru.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Michael Hutchins, Argraffu yng Ngregynog: Agweddau ar Wasg Breifat Fawr (1976)
  • Dorothy A. Harrop, A History of the Gregynog Press (Private Libraries Association, 1980)
  • Eirene White, The Ladies of Gregynog (1983). Hanes y chwiorydd a'r plas.
  • Glyn Tegai Hughes, Prys Morgan, J. Gareth Thomas, Gregynog (1977)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]