Dyfnallt Morgan

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Dyfnallt Morgan
Ganwyd 24 Mai 1917 Edit this on Wikidata
Merthyr Tudful Edit this on Wikidata
Bu farw 6 Hydref 1994 Edit this on Wikidata (77 oed)
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Bardd Edit this on Wikidata

Llenor, beirniad llenyddol, bardd a chyfieithydd oedd Dyfnallt Morgan (4 Mai 19176 Hydref 1994), a aned yn Nowlais, Merthyr Tudful, Morgannwg.

Ffrae Steddfod '53[golygu | golygu cod y dudalen]

Dyfnallt Morgan oedd awdur y bryddest eisteddfodol Y Llen, ond nid hi oedd y bryddest fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhyl 1953. Er i un o'r beirniaid, Saunders Lewis, fod eisiau coroni Dyfnallt Morgan, yr oedd y ddau feirniad arall, J.M. Edwards a T. H. Parry-Williams, yn unfryd yn ei herbyn. Yn ôl Saunders Lewis, mae'r gerdd yn disgrifo "terfyn gwareiddiad Cymraeg mewn cwm diwydiannol a'r llen haearn rhwng yr hen fywyd Cymreig a'r bywyd di-Gymraeg sy'n ei ddisodli." (Cyfansoddiadau 1953, t. 73). Ceir pwyslais ar yr elfen lafar a cheir enghraifft o dafodiaith Morgannwg. Ceir testun Y Llen yn unig gyfrol barddoniaeth Dyfnallt Morgan, Y Llen a Myfyrdodau Eraill.

Llyfryddiaeth ddethol[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Gwŷr Llên y Ddeunawfed Ganrif (1966)
  • Y Llen a Myfyrdodau Eraill (1967)
  • Gwŷr Llên y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (1968)
  • Rhyw hanner ieuenctid : astudiaeth of gerddi ac ysgrifau T.H. Parry-Williams rhwg 1907 a 1928 (1971)
  • Y Ferch o Ddolwar Fach (1977). Astudiaeth o waith a bywyd yr emynes Ann Griffiths
  • Y Wlad sy' Well (1984). Hunangofiant.


Planned section.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.