Máirtín Ó Cadhain

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Ysgrifennwr yn yr iaith Wyddeleg oedd Máirtín Ó Cadhain (190618 Hydref 1970; IPA: ˈmɑːrtʲiːnʲ oː ˈkainʲ).

Ganwyd Máirtín Ó Cadhain yn Cnocán Glas, ger pentre An Spidéal yn Sir Gaillimh. Roedd yn aelod yr IRA (Byddin Weriniaethol Iwerddon). Roedd e'n weithgar iawn dros y Wyddeleg ac yn aelod y gymdeithas Muintir na Gaeltachta a helpodd sefydlu Gaeltacht newydd Rath Cairn ym 1935.

Cafodd ei garcharu yng ngwersyll y Currach yn Sir Cill Dara drwy'r Ail Rhyfel y Byd am ei fod yn aelod yr IRA. Yno fe astudiodd ieithoedd megis rwseg, cymraeg a llydaweg. Ac yno yr ysgrifennodd ei waith enwocaf, y nofel Cré na Cille (tir y mynwent). Aeth ymlaen i addysgu cannoedd o'i gyd-carcharwyr y Wyddeleg. Ysgrifennwyd dau lyfr arall tra yn y carchar Athnuachan a Barbed Wire.

Ar sail ei lyfrau apwyntwyd e yn ddarlithydd Gwyddeleg yng Ngholeg y Drindod, Dulyn Ystirir Ó Cadhain fel un o brif awduron Gwyddeleg yr 20fed ganrif. Roedd e'n rhugl ym mhob un o'r tafodieithoedd a Gaeleg yr Alban yn ogystal ar Hen Wyddeleg a Gwyddeleg Ganol.

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Cré na Cille, 1949/1965
  • Athnuachan, 1995
  • Barbed Wire, 2002
  • Idir Shúgradh agus Dáiríre, 1975
  • An Braon Broghach (y diod tywyll), 1991
  • Cois Caoláire, 2004
  • An tSraith dhá Tógáil, 1970/1981
  • An tSraith Tógtha, 1977
  • An tSraith ar Lár, 1986
  • Ó Cadhain i bhFeasta (yn y cylchgrawn Feasta), 1990
  • Caiscín (yn yr Irish Times), 1998
  • Caithfear Éisteacht (yn y cylchgrawn Comhar), 1999
  • As an nGéibheann (o'r carchar), llythyrau rhyngddo a Tomás Bairéad

erthyglau amdano yn y Lydaweg[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Al Liamm, niv. 16, Skarzherezh Nevez-hañv, brezhoneg gant G. Dourgwenn
  • Al Liamm, niv. 120, un tamm eus Cré na Cille (Douar ar vered)


Baner Republic of IrelandEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Wyddel neu Wyddeles. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.