Jakez Riou

Oddi ar Wicipedia
Jakez Riou
Ganwyd1 Mai 1899 Edit this on Wikidata
Lotei Edit this on Wikidata
Bu farw14 Ionawr 1937 Edit this on Wikidata
o diciâu Edit this on Wikidata
Kastell-Briant Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Llydaw Llydaw
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata
MudiadSeiz Breur Edit this on Wikidata

Awdur, dramodydd a bardd a sgwennai mewn Llydaweg oedd Jakez Riou (ganwyd Jacques Yves Marie Riou; 1 Mai 1899 - 14 Ionawr 1937).

Ganwyd Riou ar 1 Mai 1899 yn Kerhoas, treflan ger Lotei, a bu farw yn Kastell-Briant Bro-Naoned yn 1937. Roedd e'n awdur yn y Llydaweg, yn cynhyrchu straeon byrion, dramâu a rhai cerddi. Roedd yn newyddiadurwr gyda'r Courrier du Finistère. Mae wedi'i gladdu ym mynwent Ploaré (Pen ar Bed). Mae cymeriad debyg iddo yn ymddangos mewn stori fer, hir gan ei ffrind Youenn Drezen a seilwyd ar y cyfnod pan oeddent mewn mynachdy yn Sbaen.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Cyfarfu â Youenn Drezen ym mynachdy Cynulleidfa Calonnau Sanctaidd Iesu a Mair, yng Ngwlad y Basg. Yno, wrth gynnal astudiaethau diwinyddol, llenyddol a gwyddonol, darganfuwyd hud y Llydaweg. Roedd yn dilyn Yann-Ber Kalloc'h a Tanguy Malmanche, yn y posibilrwydd o buro ffurfiau i'w wneud yn iaith lenyddol. Cymerodd ran yn 1925 ar ddechrau'r cylchgrawn Gwalarn, cylchgrawn llenyddol Llydaweg, a lansiwyd gan Roparz Hemon fel atodiad i'r cylchgrawn Breiz Atao.

Roedd Jakez Riou yn un o'r deallusion Celtaidd, wedi'u grwpio o amgylch y cylchgrawn Gwalarn, a cheisiodd roi llen uchel i'r Llydaweg. Ysgrifennodd Gorsedd Digor, lle gwnaeth hwyl am gyngherddau Celtaidd, beirdd a derwyddon.

Mae archif Jakez Riou wedi'u casglu yn Llyfrgell Yves-Le Gallo o'r Ganolfan Ymchwil Llydaweg a Cheltaidd (CRBC) ym Mhrifysgol Gorllewin Llydaw. Mae'n cynnwys 79 o eitemau archif heb eu cyhoeddi.

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

  • Ar Manac'h Mogn (danevell) Buhez Breiz 1923
  • Ar Morskouled (danevell) Buhez Breiz 1924
  • Lizher an hini marv (danevell embannet e stumm ul levr) Emglev Sant Iltud 1925
  • Geotenn ar Werc'hez (Danevell) Gwalarn Nn 13 1928
  • Ur Barr-Avel (danevell) Gwalarn Nn 14 1928
  • Prometheus ereet (danevell) Gwalarn Nn 15 1928 (e koun Jorj Robin)
  • An Tousegi (barzhoneg) Gwalarn Nn 15 1928
  • Ar Balafenned gwenn (barzhoneg) Gwalarn Nn 15 1928
  • Gorsedd digor (pezh-c'hoari) Gwalarn Nn 16 1928
  • Introibo (barzhoneg) Gwalarn Nn 16 1928
  • Yun (danevell) Gwalarn Nn 17 1929
  • Mona (danevell) Gwalarn Nn 18 1929
  • Balafenn (barzhoneg) Gwalarn Nn 19 1929
  • Gouel ar Sakramant (danevell) Gwalarn Nn 20 1929
  • Serr-noz (barzhoneg) Gwalarn Nn 29 1931
  • Ar Feunteun zu (barzhoneg) Gwalarn Nn 66 1934
  • Ar Run-Heol (danevell) Gwalarn Nn 70 1934
  • Anna Tregidi (barzhoneg) Gwalarn Nn 70 1934
  • Ar goulenn (barzhoneg) Gwalarn Nn 70 1934
  • Geotenn ar Werc'hez (danevelloù) Skrid ha Skeudenn 1934
  • Troioù-kamm Alanig al Louarn (danevelloù diwar Goethe) Gwalarn Nn 89 1936 ha Gwalarn Nn 97 1936
  • Lan, embanner al ludu (danevell) Gwalarn Nn 110-111 1938
  • Arnev (danevell) Gwalarn Nn 110-111 1938
  • Tan war c'horre Kemenez (danevell) Gwalarn Nn 132 1941
  • Pec'hed marvel Gregor Kogan (danevell) Gwalarn Nn 132 1941
  • Nomenoe-Oe ! (pezh-c'hoari), Embannadur Skrid ha skeudenn, Skeudennaouiñ gant Pierre Péron, 1941 (ISBN 2867750458)
  • Dogan (pezh-c'hoari) Skrid ha Skeudenn 1943
  • An ti Satanazet (romantig) Skridoù Breizh 1944
  • Torfed ar frer Juniper in Pemp pezh-c'hoari berr (pezh-c'hoari) Skridoù Breizh, 1944
  • Heol (barzhoneg) Al Liamm 1954
  • Geotenn ar Werc'hez ha danevelloù all Al Liamm 1957

Yn y Gymraeg[golygu | golygu cod]

  • Tair Stori fer; Cwthwm o Wynt; Yun; Lan, Arwerthwr y Ludw. Cyfieithwyd gan J E Caerwyn Williams yn Storiau o'r Llydaweg gol Rita Williams (Gomer, 1979)
  • Diawl yn y tŷ gan, Jakez Riou cyfieithwyd gan J. E. Caerwyn Williams (Gwasg Gee, 1972)

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]