John Lasarus Williams
John Lasarus Williams | |
---|---|
Ganwyd | 29 Hydref 1924 Llangoed |
Bu farw | 15 Mehefin 2004 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | darlithydd, cynghorydd |
Cyflogwr |
Gwladgarwr a chymwynaswr i'r Gymraeg oedd John Lasarus Willliams (29 Hydref 1924 – 15 Mehefin 2004). Fel "John L" byddai pawb yn ei adnabod. Ef sefydlodd Undeb y Gymraeg yn y 60au'r 20g yn dilyn helynt Brewer Spinks a oedd yn gwrthod hawl i'r gweithwyr yn ei ffatri yn Nhanygrisiau i siarad Cymraeg. Roedd yn gynghorydd Plaid Cymru ac yn un o'r arloeswyr a sefydlodd bolisi iaith Cyngor Sir Gwynedd. Sefydlodd Sioe Gymraeg y Borth yn ogystal.
Cafodd John L ei eni yn Llangoed, Ynys Môn, ond treuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn Llanfairpwll. Bu'n athro Cymraeg mewn sawl ysgol. Ymaelododd â Phlaid Cymru a daeth yn gynghorydd i'r Blaid ar Gyngor Sir Gwynedd. Safodd hefyd fel ymgeisydd y Blaid ar Ynys Môn.
Gyda charedigion yr iaith fel Dafydd Orwig, R. Cyril Hughes, Owain Owain ac eraill, sefydlodd Undeb y Gymraeg ym 1965.
Bu farw yn 79 oed ar 15 Mehefin 2004.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Crwsâd trwy Berswâd. Hanes Undeb y Gymraeg a Sioe Gymraeg Porthaethwy (2003, Llangefni)
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]