Alexandr Pushkin
| Alexandr Pushkin | |
|---|---|
| Ffugenw | Александр НКШП, Иван Петрович Белкин, Феофилакт Косичкин, P., Ст. Арз. (Старый Арзамасец), А. Б. |
| Ganwyd | 26 Mai 1799 (yn y Calendr Iwliaidd) Moscfa |
| Bedyddiwyd | 8 Mehefin 1799 (yn y Calendr Iwliaidd) |
| Bu farw | 29 Ionawr 1837 (yn y Calendr Iwliaidd) o anaf balistig St Petersburg |
| Man preswyl | Simferopol, Chişinău, Odesa, Moscfa, Yaropolets, Moscfa, Nizhniy Novgorod, Kazan’, Layış, Ulyanovsk, Ulyanovsk, Yazykov Estate, Ulyanovsk, Orenburg, Saratov, Penza, Yazykov Estate, Bolshoye Boldino, St Petersburg, St Petersburg |
| Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Rwsia |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | bardd, rhyddieithwr, dramodydd, beirniad llenyddol, cyfieithydd, hanesydd, nofelydd, libretydd, casglwr llyfrau, gohebydd gyda'i farn annibynnol, ysgrifennwr, awdur plant, dramodydd, awdur ysgrifau, ymladdwr cleddyf, cyfieithydd gwaith Adam Mickiewicz, translator of William Wordsworth |
| Swydd | member of Filiki Eteria |
| Adnabyddus am | Eugene Onegin, Merch y Capten, Boris Godunov, Ruslan a Ludmila, Y Proffwyd, Stori'r Offeiriad a'i Weithiwr Balda, Stori'r Pysgotwr a'r Pysgodyn, Stori'r Dywysoges Farw a'r Saith Marchog, Stori'r Ceiliog Aur |
| Arddull | rhyddiaith, newyddiadurwr gyda barn, beirniadaeth, nofel-gerdd, nofel lladron penffordd, nofel fer, stori dylwyth teg, llenyddiaeth hanesyddol |
| Prif ddylanwad | John Keats, Voltaire, Dante Alighieri, Johann Wolfgang von Goethe, Friedrich Schiller, William Shakespeare, George Gordon Byron, Percy Bysshe Shelley |
| Mudiad | Rhamantiaeth |
| Tad | Sergey Pushkin |
| Mam | Nadezhda Pushkina |
| Priod | Natalia Pushkina |
| Plant | Maria Pushkina, Natalya Alexandrovna Pushkina, Alexander Alexandrovich Pushkin, Grigory Aleksandrovich Pushkin |
| llofnod | |
Bardd a llenor Rwsaidd oedd Alexandr Sergeyevich Pushkin (Rwsieg: Алекса́ндр Серге́евич Пу́шкин) (6 Mehefin 1799 – 10 Chwefror 1837). Ystyrir ef yn fardd mwyaf Rwsia.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed ef ym Moscfa, a chyhoeddodd ei gerdd gyntaf pan oedd yn bymtheg oed. Addysgwyd ef yn y Lyceum Ymerodrol yn Tsarskoe Selo. Roedd o blaid newidiadau cymdeithasol, a daeth i wrthdrawiad a'r llywodraeth yn nechrau'r 1820au. Alltudiwyd ef i dde Rwsia, a thra yno ysgrifennodd ei ddrama enwocaf, Boris Godunov, er na allodd ei chyhoeddi am rai blynyddoedd. Cyhoeddodd ei nofel farddonol Eugene Onegin rhwng 1825 a 1832.
Priododd Pushkin Natalya Goncharova yn 1831, a daethant yn rhan o'r llys ymerodrol yn St. Petersburg. Yn 1837, roedd sibrydion fod Natalya wedi dechrau carwriaeth a Georges d'Anthès. Rhoddodd Pushkin sialens iddo i ymladd, ond clwyfwyd Pushkin yn ddifrifol yn yr ornest a bu farw ddau ddiwrnod yn ddiweddarach.
Gwaith llenyddol
[golygu | golygu cod]Barddoniaeth
[golygu | golygu cod]- 1820 – Ruslan a Ludmila (Руслан и Людмила).
- 1820–21 – Kavkazsky plennik (Кавказский пленник) ("Carcharor y Caucasus").
- 1821 Gavriiliada (Гавриилиада) ("Y Gabrieliad").
- 1821–22 – Bratya razboyniki (Братья разбойники) ("Y lleidr-frodyr").
- 1823 – Bakhchisaraysky fontan (Бахчисарайский фонтан) ("Ffynnon Bakhchisaray").
- 1824 – Tsygany (Цыганы) ("Y Sipsiwn").
- 1825 – Graf Nulin (Граф Нулин) ("Cownt Nulin").
- 1829 – Poltava (Полтава) ("Poltava").
- 1830 – Domik v Kolomne (Домик в Коломне) (Y Tŷ bychan yn Kolomna").
- 1833 – Medny vsadnik (Медный всадник) ("Y Marchog Efydd").
Nofel farddonol
[golygu | golygu cod]- 1825-32 – Yevgyeny Onyegin (Евгений Онегин) (Eugene Onegin).
Cyfieithiadau i'r Gymraeg
[golygu | golygu cod]- Pedair Drama Fer o'r Rwseg (Tri awdur), cyfieithwyd gan T. Hudson Williams. Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 1964.
- 'Y Marchogion' (Medny vsadnik Медный всадник 1833).
- 'Don Juan' (Алекса́ндр Серге́евич Пу́шкин).