Nofel hanesyddol

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Nofel a chanddi stori wedi ei gosod mewn oes o'r blaen yw nofel hanesyddol. Gallai portreadu digwyddiadau a chymeriadau go iawn neu fod yn naratif gwbl ffuglennol, ond byddai wastad yn tynnu ar themâu sy'n ymwneud â chyfnod hanesyddol penodol.

Y llenor cyntaf i ddefnyddio'r gorffennol yn gefndir i'w straeon am ramant a brad oedd yr Albanwr Syr Walter Scott. Bu sawl nofelydd Ewropeaidd, gan gynnwys Manzoni, yn dynwared arddull Scott, ac felly datblygodd y nofel hanesyddol fel genre unigryw. Fe'i defnyddid i osod cyd-destun ffeithiol a diddorol i'r darllenwr, ac yn fyd parod llawn antur a drama. Bu rhai o lenorion y 19g yn ysgrifennu nofelau tra-genedlaetholgar gan dynnu ar hanes traddodiadol a mythau cenedlaethol.

Yn yr 20g manteisiodd awduron ar y ffurf hon o'r nofel i ymdrin â syniadau seicolegol a chymdeithasegol am feddylfryd ein hynafiaid, megis Robert Graves yn I, Claudius (1934) a Margaret Yourcenar yn Mémoires d'Hadrien (1951). Gan amlaf, arbenigai nofelwyr hanesyddol mewn dosbarthiadau penodol o'r genre, rhai ohonynt yn hynod o boblogaidd: y rhamant hanesyddol, nofelau cyfnod y Rhaglywiaeth, anturiaethau morwyr yn Rhyfeloedd Napoleon, straeon y Gorllewin Gwyllt, a'r nofel deuluol.

Nofelau hanesyddol enwog[golygu | golygu cod y dudalen]

Cymraeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffrangeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Rwseg[golygu | golygu cod y dudalen]

Saesneg[golygu | golygu cod y dudalen]