Faust (Goethe)

Oddi ar Wicipedia
Faust
Delwedd:Anton Kaulbach Faust und MephistoFXD.jpg, Richard Westall - Faust and Lilith.jpg
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol, cyfres o weithiau creadigol Edit this on Wikidata
CrëwrRichard Westall Edit this on Wikidata
AwdurJohann Wolfgang von Goethe Edit this on Wikidata
IaithAlmaeneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1808, 1832 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1774 Edit this on Wikidata
Genretragedy Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganUrfaust, Q110898949 Edit this on Wikidata
CymeriadauMephistopheles, Heinrich Faust, Margarete Edit this on Wikidata
Yn cynnwysFaust, Part One, Faust, Part Two Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Tudalen deitl argraffiad cyntaf Faust Rhan 1 (1808)

Cyfuniad o ddrama a cherdd hir mewn Almaeneg yw Faust gan Johann Wolfgang von Goethe. Fe'i ystyrir yn un o wethiau llenyddol enwocaf yr iaith Almaeneg.

Cyhoeddwyd y rhan gyntaf, Faust. Der Tragödie erster Teil ("Faust: y rhan gyntaf o'r Drasiedi") yn 1808, a'r ail ran, Faust. Der Tragödie zweiter Teil ("Faust: yr ail ran o'r Drasiedi") wedi marwolaeth Goethe yn 1832.

Roedd Goethe wedi bod yn gweithio ar y thema o'r cyfnod rhwng 1772 a 1775, pan ysgrifennodd fersiwn o'r stori a elwir yn Urfaust. Yn 1790, cyhoeddodd Faust. Ein Fragment, oedd yn ddatblygaid o ddeunydd yr Urfaust. Tra'r oedd y chwedl wreiddiol yn un Gristnogol, ychwanegodd Goethe elfennau clasurol a hanes carwriaeth Faust a Gretchen.

Cyfieithwyd i'r Gymraeg gan Cyfieithwyd gan T Gwyn Jones fel rhan o'r gyfres o lyfrau Cyfres y Werin yn 1922. Bu Faust gan Goethe hefyd yn ysbrydoliaeth i nifer o weithiau cerddorol adnabyddus, Faust gan Charles Gounod, Damnedigaeth Faust gan Hector Berlioz a Symffoni Faust gan Franz Liszt. Cafwyd cyfieithiad Cymraeg yn 1994 gan R. Gerallt Jones (Cyfres Dramâu Aberystwyth, CAA 1994).

Anton Kaulbach (1864–1934), Faust a Mephisto (olew ar gynfas, tua 1900)