Harri Pritchard Jones

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Harri Pritchard Jones
Ganwyd 3 Hydref 1933 Edit this on Wikidata
Dudley Edit this on Wikidata
Bu farw 10 Mawrth 2015 Edit this on Wikidata (81 oed)
Penarth Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth Ysgrifennwr, nofelydd, seiciatrydd Edit this on Wikidata
Plant Guto Harri Edit this on Wikidata
Ar dde'r llun: 'Harri Pi-Je' fel y'i gelwid, un o drefnwyr Protest Cymdeithas yr Iaith i Gymreigio Prifysgol Bangor. Hydref 1963.

Pabydd selog ac awdur Cymreig oedd Harri Pritchard Jones (10 Mawrth 1933 - 10 Mawrth 2015), a alwyd hefyd yn 'Harri Pi-Je' gan ei gyfeillion. Fe'i ganwyd yn Dudley yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr cyn symud i Ynys Môn. Bu'n weithgar iawn gyda phrotestiadau cynharaf Cymdeithas yr Iaith ym Mangor yn y 1960au.

Bu'n fyfyriwr yng Ngholeg y Drindod yn Nulyn, Iwerddon ac yno y daeth i gysylltiad a'r ffydd Gatholig.[1] Dychwelodd i Gymru i fagu teulu a bu'n seiciatrydd yn Ysbyty Meddwl Hensol ger Caerdydd. Roedd yn briod a Lenna a roedd ganddo ddau fab, y newyddiadurwr Guto Harri, Illtud a merch Nia. Roedd yn byw yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd. Ar ddiwedd ei fywyd roedd wedi dioddef o gancr a bu farw yn Hospis Marie Curie, Penarth yn 81 oed.[2][3]

Gyrfa feddygol[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl ei fab Guto, trodd ei dad at feddygaeth oherwydd dylanwad ei dad yntau sef William Alfred Pritchard Jones, athro o Borthaethwy a orfodwyd i ymuno a byddin Lloegr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf fel aelod o'r uned ambiwlans. Yn dyst i gyflafan y Somme, roedd yn aelod o Royal Army Medical Corps. Er mai ffuglen y gelwir y nofel Darnau’n disgyn i’w lle (neu Disgyn i'w Lle) cred Guto mai sôn am ei dad oedd Harri mewn gwirionedd.[4] Dylanwad mawr arall arno oedd Tynged yr Iaith a'i hawdur Saunders Lewis.

Llenor[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'n awdur pymtheg o lyfrau, gyda rhai o'r rheiny wedi eu cyfieithu i saith o iethoedd.[5] Bu'n Gadeirydd 'Yr Academi Gymreig' fel y'i gelwid; Llenyddiaeth Cymru, bellach. Roedd hefyd yn Gymrawd yr Academi Gymreig. Gwnaeth rai addasiadau ar gyfer y teledu gan gynnwys addasiad o Brad gan Saunders Lewis ar gyfer S4C.

Dywedodd Lleucu Siencyn, prif weithredwr Llenyddiaeth Cymru:

Cyfrannodd yn sylweddol i’r broses o sefydlu presenoldeb i lenyddiaeth yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ac yn fwy diweddar bu Harri o gymorth mawr wrth greu’r sefydliad newydd, Llenyddiaeth Cymru, gan uno Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd ac Academi.[6]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Golygydd:
  • Goreuon storiau Kate Roberts wedi'u dethol, ynghyd a rhagymadrodd gan Harri Pritchard Jones. Dinbych: Gwasg Gee, 1997.
  • Saunders Lewis: letters to Margaret Gilcriest, golygyddion: Mair Saunders Jones, Ned Thomas a Harri Pritchard Jones. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1993.
  • Gŵr y gwyrthiau sgript gan Murray Watts, addasiad Cymraeg gan Harri Pritchard Jones. Caerdydd :S4C, 1999.
  • Storïau'r dydd, wedi'u dethol a'u golygu gan Islwyn Jones a Gwilym Rees Hughes; rhagymadrodd gan Harri Pritchard Jones. Llandysul: Gwasg Gomer, 1968.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan BBC Cymru; adalwyd 13 Mawrth 2015
  2. Doctor Harri Pritchard Jones: Psychiatrist and author whose writing and activism made him a giant of Welsh literature and language; The Independent; Adalwyd 5 Ionawr 2016
  3. Colofn marwolaethau, Media Wales; Adalwyd 5 Ionawr 2016
  4. Gwefan Wales On Line; adalwyd 13 Mawrth 2015
  5. Gwefan Llenyddiaeth Cymru; adalwyd 13 Mawrth 2015
  6. Gwefan Golwg360; adalwyd 13 mawrth 2015