Omar Khayyam
| Omar Khayyam | |
|---|---|
|
| |
| Ganwyd |
18 Mai 1048 Nishapur |
| Bu farw |
4 Rhagfyr 1131 Nishapur |
| Dinasyddiaeth |
Great Seljuq Empire |
| Galwedigaeth |
Mathemategydd, seryddwr, Bardd, awdur geiriau, athronydd, Cerddor, astroleg |
| Arddull |
Ruba'i |
| Prif ddylanwad |
Avicenna |
Mathemategydd, seryddwr, athronydd a bardd oedd Omar Khayyām (Persieg: عمر خیام / Omar-e Khayyām) (18 Mai 1048 - 4 Rhagfyr 1131), a anwyd yn Nishapur, Persia.
Mae Omar Khayyām yn fwyaf abnabyddus yn y Gorllewin am ei gasgliad o gerddi, Rubaiyat Omar Khayyām, ond yn ei wlad enedigol fe'i cofir yn bennaf am ei waith gwyddonol ac athronyddol. Fel ei gyfoeswr agos y bardd Faruddin Attar, Sŵffi oedd Omar Khayyam ac mae olion athroniaeth gyfrinol y Sŵffiaid i'w gweld yn glir yn ei farddoniaeth.
Cyfieithiad Edward FitzGerald o'r Rubaiyat[golygu | golygu cod y dudalen]
Aralleiriad neu addasiad yw'r fersiwn o'r Rubaiyat a gyhoeddwyd gan Edward FitzGerald (1809-1883) yn 1859. Mae wedi rhedeg i nifer o argraffiadau ers hynny, rhai ohonyn' nhw yn llyfrau cain gyda darluniau gan arlunwyr fel Gilbert James. Roedd Rubaiyat FitzGerald yn arbennig o boblogaidd ar droad yr 20g.
Cyfieithiadau Cymraeg o'r Rubaiyat[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfieithiwyd casgliad o waith Omar Khayyām (Penillion Omar Khayyam) o'r Bersieg gwreiddiol i'r Gymraeg gan Syr John Morris-Jones ym 1928. Serch hynny mae dylanwad cyfieithiad Saesneg FitzGerald yn amlwg ynddo. Dyma bennill ohono:
- Yn wir, rhyw ddernyn gwyddbwyll ydyw dyn,
- Tynged yn chware â hwnnw'i chware'i hun;
- Ein symud ar glawr Bywyd, ôl a blaen,
- A'n dodi 'mlwch yr Angau, un ac un.[1]
Yn 1939 cyhoeddodd Thomas Ifor Rees (1890-1977) ei drosiad ei hun o fersiwn Saesneg Edward FitzGerald o'r Rubaiyat yn Dinas Mecsico, gyda lluniau gan yr arlunydd Robert Hesketh.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ John Morris-jones, Caniadau.
|