Luigi Pirandello

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Luigi Pirandello
Luigi Pirandello 1932.jpg
Ganwyd 28 Mehefin 1867 Edit this on Wikidata
Agrigento Edit this on Wikidata
Bu farw 10 Rhagfyr 1936 Edit this on Wikidata (69 oed)
Rhufain Edit this on Wikidata
Alma mater Prifysgol Bonn Edit this on Wikidata
Gwaith Dramodydd, awdur, bardd, nofelydd, sgriptiwr Edit this on Wikidata
Gwaith nodedig L'Esclusa, The Turn, Ma non è una cosa seria, One, No one and One Hundred Thousand Edit this on Wikidata
Plant Fausto Pirandello, Stefano Pirandello Edit this on Wikidata
Gwobr/au Gwobr Llenyddiaeth Nobel Edit this on Wikidata
Llofnod
Pirandello firma.jpg

Llenor a dramodydd Eidalaidd oedd Luigi Pirandello (Agrigento, 28 Mehefin 1867Roma, 10 Rhagfyr 1936), ac enillydd Gwobr Lenyddol Nobel ym 1934. Cyfieithwyd ei waith i nifer o ieithoedd y byd. Un o'i ddramâu enwocaf yw Sei personaggi in cerca d'autore, 1921. Mae cyfieithiad Cymraeg ar gael, sef Chwe Chymeriad yn chwilio am Awdur, cyfieithwyd gan Dyfnallt Morgan ac Eleri Morgan a cyhoeddwyd gan Lys yr Eisteddfod ym 1981.

Ganwyd Pirandello ym mhentre Kaos, maesdref i Agrigento, yn ne Sisili i deulu cyfforddus eu byd. Symudodd y teulu wedyn i Palermo lle cafodd addysg da. Aeth wedyn i astudio yn Rhufain ond roedd rhaid iddo fe adael cyn graddio. Aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Bonn yn yr Almaen. Darllenodd waith Heinrich Heine, a Goethe. Cyhoeddodd waith seiliedig ar waith Goethe, yr Elegie Boreali tra yno. Ym Mawrth 1891, enillodd ei Ddoethuriaeth.

Gwaith[golygu | golygu cod y dudalen]


Baner yr EidalEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Eidalwr neu Eidales. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.