Pádraic Ó Conaire

Oddi ar Wicipedia
Pádraic Ó Conaire
Ganwyd28 Chwefror 1882 Edit this on Wikidata
Gaillimh Edit this on Wikidata
Bu farw6 Hydref 1928 Edit this on Wikidata
Dulyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Gwladwriaeth Rydd Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amDeoraíocht Edit this on Wikidata

Llenor a newyddiadurwr yn yr iaith Wyddeleg (yn bennaf) oedd Pádraic Ó Conaire (28 Chwefror 18826 Hydref 1928). Roedd yn frodor o Galway, gorllewin Iwerddon. Fe'i ystyrir yn un o ffigurau mwyaf llenyddiaeth Wyddeleg yr 20g.

Ei fywyd[golygu | golygu cod]

Ganwyd Ó Conaire yn fab hynaf i dafarnwr yn Galway. Trist fu hanes y teulu; bu farw'r rhieni cyn i'r bachgen gyrraedd 12 oed. Aeth ef a'i frodyr i fyw gyda'u hewythr yn Gairbh-Eanach, Ros Muc, Conamara. Tyfodd i fyny yn yr ardal wledig honno a daeth i fesitrioli'r Wyddeleg; pur Saesneg ei haith oedd tref Galway ond roedd Ros Muc yn rhan o'r Gaeltacht a'r iaith yn fyw ar dafod leferydd.

Yn 1899 aeth i weithio fel clerc i'r Bwrdd Addysg yn Llundain. Yno daeth i gysylltiad â'r Conradh na Gaedhilge (Cynghrair y Wyddeleg) a dechreuodd lenydda. Pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914 penderfynodd Pádraic ddychwelyd i Iwerddon a cheisio ennill ei damaid trwy lenydda yn yr iaith a garai.

Treuliodd weddill ei oes yn ei wlad enedigol yn crwydro'r wlad. Daeth i arfer â thlodi a chaledi ond roedd yn benderfynol o gyfrannu at lenyddiaeth ei wlad. Daeth yn gymeriad adanbyddus ledled Iwerddon ond er iddo gyhoeddi sawl cyfrol o straeon byrion ni chafodd lwyddiant ariannol. O'r diwedd, yn 1928, penderfynodd fynd i Riga, prifddinas Latfia, efallai am fod yr holl sôn am y Chwyldro yn Rwsia wedi gafael yn ei ddychymyg a'i gyffroi. Byr fu ei arosiad yno a phan ddychwelodd i Ddulyn syrthiodd yn sâl yn ddirybudd. Bu farw yn Ward y Tlodion yn Ysbyty Richmond ar y chweched o Hydref y flwyddyn honno. Y cwbl a gafwyd yn ei feddiant oedd pibell, owns o faco ac afal.

Ei waith[golygu | golygu cod]

Yn ei straeon byrion mae dylanwad llenyddiaeth Ffrangeg a llenyddiaeth Saesneg yn amlwg. Mae'n bosibl ei gymharu â Maupassant. Sgwennai am y cefn gwlad, y trefi a'r pentrefi, Llundain a gwledydd tramor. Roedd ei destun a'i arddull yn chwa o awyr iach yn llenyddiaeth Wyddeleg y cyfnod, oedd yn drwm dan ddylanwad y chwedlau gwerin a wastad ynghlwm wrth yr Iwerddon wledig. Un nofel yn unig a gyhoeddodd, sef Deoraidheacht ('Ar wasgar') yn 1910.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Llyfrau Ó Conaire[golygu | golygu cod]

  • An Scoláire Bocht, agus scéalta eile, 1904
  • Nora Mharcais Bhig, 1906
  • Deoraidheacht, 1910
  • An Scoláire Bocht, agus scéalta eile, 1913
  • An Chéad Chloch, 1914
  • Seacht mBua an Éirí Amach, 1918
  • An Crann Géagach, 1919
  • Tír na n Íontais, 1919
  • Béal an Uaignis, 1921
  • Siol Éabha, 1921
  • An Chinniúint, 1924
  • Eachtraí Móra ón ár Stair, 1924
  • Trí Truaighe na Scealaíochta, 1924
  • Mór thimpeall na hÉireann, ar muir, 1925
  • Fearfeasa Mac Feasa, 1930
  • Brian Óg
  • Beagnach Fíor
  • Cubhair na dTonn
  • Scéalta an tSáirsint Rua
  • Seoigheach an Ghleanna
  • M'asal Beag Dubh

Cyfieithiadau Cymraeg[golygu | golygu cod]

  • Storïau ac Ysgrifau gan Pádraic Ó Conaire, Trosiadau o'r Wyddeleg gan J. E. Caerwyn Williams (Y Clwb Llyfrau Cymreig, 1949)
  • Ystoriau Byr o'r Wyddeleg gan Pádraic Ó Conaire, cyf. Tomás Ó Cléirigh a David Myrddin Lloyd (Llandysul, 1934)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

  • Tom Kenny, "Ó Conaire — an fear", Galway Advertiser, 23 Chwefror 2007. Erthygl fer gyda llun prin o'r awdur.