Ros Muc
![]() | |
Math | anheddiad dynol, Gaeltacht ![]() |
---|---|
Cylchfa amser | UTC±00:00 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Contae na Gaillimhe ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 1 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 53.35028°N 9.61583°W ![]() |
![]() | |
Pentref yng nghanol Gaeltacht Conamara yn Swydd Galway, gogledd-orllewin Iwerddon, yw Ros Muc (Saesneg: Rosmuck).
Credir mai ystyr yr enw Gwyddeleg 'Ros Muc' yw "penrhyn y moelydd" (ros 'penrhyn' + muc 'moelydd').
Er ei fod yn bentref bach mae gan Ros Muc le arbennig yn hanes llenyddiaeth Wyddeleg a diwylliant Iwerddon. Ganwyd Proinsias Mac Aonghusa, cyn-arlywydd Cynghrair y Wyddeleg, yn y pentref. Arferai'r chwyldroadwr ac ymgyrchydd iaith Wyddeleg Patrick Pearse (Pádraig Mac Piaras) fye mewn tŷ haf yn yno yn y 1900au, ac mae nifer o straeon byrion yn lleoledig yn yr ardal. Magwyd y llenor Pádraic Ó Conaire (1882 - 1928) yn nhŷ ei ewythr yn Ros Muc ar ddiwedd y 19g a dechrau'r 20fed. Lleolir rhai o'i straeon yn yr ardal, gan gynnwys 'M'asal Beag Dubh' ("Fy Asyn Bach Du") a'r nofel Deoraíocht ("Ar Wasgar").
Heddiw cydnabyddir yr ardal fel un o gadarnleoedd pwysicaf yr iaith Wyddeleg yn Gaeltacht De Conamara.
Dolenni allanol[golygu | golygu cod]
- (Saesneg a Gwyddeleg) Gŵyl Dawnsio Gwyddelig Ros Muc Archifwyd 2010-06-12 yn y Peiriant Wayback.