John Stoddart

Oddi ar Wicipedia
John Stoddart
Ganwyd6 Chwefror 1773 Edit this on Wikidata
Caersallog Edit this on Wikidata
Bu farw16 Chwefror 1856 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaethbarnwr, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
TadJohn Stoddart Edit this on Wikidata
PriodIsabella Wellwood-Moncreiff Edit this on Wikidata
PlantMary Ann Stoddart, Isabella Maxwell Stoddart, Henry Moncrieff Stoddart, John Frederick Stoddart, William Wellwood Stoddart Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Faglor Edit this on Wikidata

Newyddiadurwr a chyfreithiwr o Loegr oedd Syr John Stoddart (6 Chwefror 177316 Chwefror 1856), a wasanaethodd fel golygydd The Times.[1]

Fe annwyd Stoddart yng Nghaersallog, ac ef oedd mab hynaf John Stoddart, a oedd yn raglaw yn y Llynges Frenhinol. Priododd Sarah (ei unig chwaer) â William Hazlitt ar 1 Mai 1808. Addysgwyd Stoddart yn Ysgol Ramadeg Salisbury, ac wedi hynny yn Christ Church, Rhydychen, lle yr ymaelododd ar 25 Hydref 1790, a graddiodd yn B.A yn 1794, B.C.L yn 1798, a D.C.L yn 1801. Derbyniwyd ef yn aelod o Goleg yr Eiriolwyr yn 1801, ac o 1803 hyd 1807 bu yn Eiriolwr y Goron a'r Morlys yn Malta. Yn ystod ei amser ym Malta ymwelodd Samuel Taylor Coleridge â Stoddart.

Newyddiaduraeth[golygu | golygu cod]

Wedi hynny dychwelodd Stoddart i Loegr i ymarfer yn y Doctors Commons. Cychwynnodd gysylltiad â'r Times, yn 1810 a gwasanaethodd fel arweinydd-awdur o 1812 ymlaen. Daeth Stoddart i gytundeb â John Walter yn Ebrill 1890 efo perchennog y Times, i ddod yn olygydd y papur newydd. Ysgogodd ei gydymdeimlad pybyr gyda'r Torïaid gerydd, ond gwrthododd Stoddart gais Walter iddo gymedroli ei dôn, ac o ganlyniad awdurdododd Walter Thomas Barnes, gohebydd ar y pryd, i olygu erthyglau blaenllaw Stoddart. Fodd bynnag, cynyddodd anwadalwch gwleidyddol Stoddart nes iddo gael ei ddiswyddo gan Walter yn ystod gaeaf 1816. Daeth Barnes yn olynydd iddo.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Error". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-02-01. Cyrchwyd 2024-02-26.
  2. The History of The Times, vol. 1: The Thunderer in the Making, 1785-1841 (Llundain: Printing House Square, 1935), t. 157-161